THE latest community news from Llangybi

Merched y Wawr

CYFARFOD cyntaf y Dderi oedd ymweliad â chrochendy yn Llanfair Clydogau ar 19 Medi.

Yno cawson groeso cynnes gan y perchnogion a gwelwyd arddangosfa arbennig o wahanol nwyddau yr oeddynt yn medri gynyrchu yno, ac esboniadau am y gwahanol broesau o wneud y nwyddau.

Diolchwyd yn gynnes iddynt am brynhawn difyr gan ein llywydd Deborah Jones.

Ymlaen wedyn i gartref ein llywydd ac yno cawsom de bendigedig â phawb wedi bwyta ei wala.

Rhoddwyd y raffl gan Mair Spate ac fe’i henillwyd gan Deborah Jones, Mary Jones, Eleanor Evans a Rita Jones.

Rhoddwyd pleidlais o ddiolch i’r llywydd am ei chroeso a’r wledd gan ein is-lywydd Gwyneth Jones.

Teulu o Dregaron oedd y gwahoddion yng nghyfarfod mis Hydref.

Cawsom fraslun o hanes sut y bu’r swyddfa bost ei gau ar ôl bron i 50 mlynedd o wasanaeth i’r gymdogaeth ac am y fenter o agor siop newydd Anrhegaron gan David a Nerys Bennet.

Daethant â nifer o wahanol bethan mae’r siop yn werthu a chawsom gyfres o ddarluniau gan Nerys yn dangos datblygiad y siop a’r nwyddau a’r gwaith sgruthuro mae David yn ei wneud ar gais arbennig cwsmeriaid.

Bu’r bechgyn yn diddanu yr aelodau trwy ganu a llefaru.

Diolchwyd yn gynnes iddynt gan y llywydd Deborah Jones am noson fendigedig a gofir amdani am hydoedd.

Arddangosfa ‘Anrhegaron’ oedd y stondin orau yn sioe Llambed.

Rhoddwyd y raffl gan Ireni Lewis ac fe’i henillwyd gan y brodyr Bennet a Gwyneth Jones.

Dymunwyd adferiad llwyr a buan i’r aelodau oedd yn sâl.

I ddiweddu y cyfarfod cafwyd paned a bisgedi wedi eu rhoi gan Mary Jones a Mair Spate.

Bydd y cyfarfod nesaf ar nos Fawrth, 20 Tachwedd, am 7yh yn Ysgol y Dderi, pryd y disgwylir Meinir Green i’n plith.

Hamdden

MEMBERS met at Ysgol y Dderi on 5 October when all members were warmly welcomed by the president, Gwen Lewis.

The guest speaker was Peter Cornielius, who gave a very interesting and historical talk relating to the First World War and he explained how he came to write his book Poppy.

He also brought along artefacts of that period. He was thanked for an interesting afternoon by Gwen Lewis.

One member celebrated her birthday and she had brought her birthday cake which was shared among members.

To celebrate this special occasion Happy Birthday was sung and a card signed by members to commemorate the event.

Tea hostesses were Janet and Raymond Farrow. Raffle winners were Maisie Morgans, Barry Williams, Maureen Morgans, Mair Spate, Wendy Davis, Sally Davies, Raymond Farrow, Rita Jones and Peter Cornielius.

The next meeting will be on 9 November at Ysgol y Dderi when a cookery demonstration will be given by Rhonwen Thomas.

Tegwyn Cornielius was elected as vice-president.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]