THE latest community news from Nefyn

Cyfeillion Plas Hafan

CYFARFU Cyfeillion Plas Hafan yn ddiweddar o dan lywyddiaeth Terry Hughes.

Roedd yr aelodau â diddordeb mawr yn y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud ar yr uned dementia newydd yn y cartref ac edrychir ymlaen i’w weld wedi ei gwblhau.

Deallwyd fod Sioned Roberts yn dod draw i ddiddori’r preswylwyr fore Llun, 16 Gorffennaf, ac roedd pawb yn edrych ymlaen.

Bydd y cyfeillion yn cynnal bore coffi yn festri Capel Penlan, Pwllheli fore Mercher, 5 Medi, derbynnir unrhyw roddion tuag at y raffl, bwrdd cacennau a stondin tombola yn ddiolchgar iawn gan unrhyw aelod neu ym Mhlas Hafan.

Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Lun, 20 Awst, er mwyn cwblhau’r trefniadau ag ofynnwyd i bawb ddod ag eitemau ar gyfer tombola a hamper nwyddau.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]