THE latest community news from Nefyn
Capel Soar
AR 1 Gorffennaf am 10yb cafwyd gwasanaeth yng nghwmni Elfed Lewis, Trawsfynydd. Cafwyd darlleniad o Ioan, Pennod 5, testun Jona a’r Morfil.
Ar 8 Gorffennaf am 5yh roedd y gwasanaeth yng ngofal ficer Nefyn, sef Richard Wood, â’i destun oedd Iachau y gwr wrth Ffynnon Bethesda.
Am 5yh ar 15 Gorffennaf gweinidog Capel Soar, sef y Parch Glenys Jones oedd yn cynnal yr oedfa. Testun oedd Y Bregeth ar y Mynydd, Y Pump Torth a’r Dau Bysgodyn a chafwyd cyfarfod o’r eglwys.
Y Parch Pryderi Ll Jones, Cricieth, roddodd y bregeth am 5yh ar 22 Gorffennaf.
Cafwyd darlleniad o’r Philipiaid a hanes Neuadd Lwyd a chenhadon Madagascar.
Fore Sul, 29 Gorffennaf, am 10yb mwynhawyd gwasanaeth gan Mudiad y CSSM. Testun oedd Goleuni’r Byd a Ioan y Bedyddiwr.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.