THE latest community news from Nefyn
Capel Soar
AR 7 Gorffennaf, cafwyd gwasanaeth gan Elfed Lewis, Brithdir ar destun o llyfr y Diarhebion a Iago, ‘Helpu eraill, y tlawd fel y cyfoethog’.
Ar 14 Gorffennaf, Glyn Owen, Llanwnda oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth gyda’r testun o lyfr Genesis, pennod 26, adnod 25, ‘Isaac ei ffydd wedi iddo gyrraedd Bathsheba’.
Allor (Crefydd) – Pabell (Cartref) – Ffynnon (Cynhaliaeth).
Ar 21 Gorffennaf, cafwyd oedfa a chymun gan ein gweinidog, y Parch Glenys Jones a’r testun oedd o Malachi pennod 3, ‘Dod â’r Degwm llawn i’r Trysordy ac o lythyr Paul at y Rhufeiniaid’.
Ar 28 Gorffennaf, gwasanaeth yng ngofal Janet Wyn Hughes ar y testun o Luc 24 a Sala 84, ‘Taith Bywyd’. Rhwystrau ar ffordd bywyd fel Abraham a’r ddau ar y ffordd i Emaus a ffydd yn helpu i gamu ymlaen.
Diolchwyd i Janet Wyn Hughes am roi carped newydd ar un o ystafelloedd y festri a hefyd i deulu Botacho Wyn am flodau hardd i’r capel er cof am Elisabeth Jones.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.