THE latest community news from Nefyn

Cyfeillion Plas Hafan

CYFARFU Cyfeillion Plas Hafan, nos Lun, 29 Gorffennaf, ym Mhlas Hafan.

Yn absenoldeb y cadeirydd fe lywyddwyd gan Ann Roberts.

Llongyfarchwyd y rheolwr, Wendy Owen, a’i staff ar agoriad swyddogol yr uned dementia newydd, T? Clyd.

Mae caffi bach wedi agor ar gyfer y preswylwyr bob bore Llun cyntaf y mis a phawb wedi mwynhau y ddau fore sydd wedi bod hyd yn hyn.

Mae tair o’r cyfeillion wedi gwirfoddoli i roi cymorth yn eu tro.

Yr oedd rhai o’r preswylwyr wedi bod ar y tren bach ers y cyfarfod diwethaf a rhai eraill wedi bod allan am ginio a hefyd mwynhau chwarae bingo gydag Edwin a chanu gyda Barrie.

Bu plant hynaf Ysgol Nefyn draw i ffarwelio gan eu bod yn mynd i ysgolion uwchradd ar ôl yr haf.

Yr oeddynt wedi bod yn driw iawn dros amser ac wedi gwneud ffrindiau.

Gobeithio all rhai dal ddod y ymweld.

Bydd cyfarfod nesaf y cyfeillion am 7.30yh nos Lun, 21 Hydref.

Os oes unrhyw un a diddordeb mewn gweithio yn y cartref neu fod yn aelod o’r cyfeillion cysylltwch a Phlas Hafan am fwy o wybodaeth.

Amgueddfa Forwrol Ll?n

AR fore Llun, 12 Awst, rhwng 10.30yb ac 1yp, cynhelir ‘Teulu’r Traeth’ – Hwyl a Sbri ar draeth Nefyn.

Addas ar gyfer plant hyd at saith mlwydd oed hefo oedolyn.

I sicrhau eich lle cysylltwch hefo’r Amgueddfa ar 01758 721313.

Siantis Môr gyda Gwenan Gibbard a gemau traeth a phicnic.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]