THE latest community news from Nefyn.

Capel Soar

BORE Sul, 4 Rhagfyr am 10yb, cafwyd gwasanaeth yng nghwmni y Parch Cath Williams, Caernarfon.Am 5yh roedd y gwasanaeth yng ngofal Arwel Williams, Rhosgadfan.Arwyn Owen Hughes fu wrth yr organ i’r ddau gyfarfod a llywyddwyd gan Gwyn Hughes.Bore Sul, 11 Rhagfyr am 10yb, cafwyd gwasanaeth gan athrawon yr Ysgol Sul yng Nghapel Soar, Janet Wyn Hughes oedd wrth yr organ, ac am 4.30yh cafwyd gwasanaeth Nadolig y Plant gyda 20 plentyn yn cymryd rhan dan arweiniad Beryl Ellis Jones wrth yr organ.Llywyddwyd cyfarfod y bore gan Gwyn Hughes a’r hwyr gan Dan Owen.

Cyfeillion Plas Hafan

CYNHALIWYD cyfarfod nos Lun, 5 Rhagfyr. Yr oedd trigolion y cartref wedi mwynhau ymweliad â Chastell Caernarfon yn ddiweddar i weld yr arddangosfa o popis coch. Yr oeddynt hefyd wedi mwynhau ymweliadau gan Dafydd Iwan a Dewi Pws i’w diddanu. Bu’r parti Nadolig i’r trigolion fore Llun, 19 Rhagfyr, gyda Sioned Roberts yn cyflwyno adloniant a bwffe i ginio. Roedd cryn edrych ymlaen am ymweliadau dros y Nadolig, yn cynnwys plant Ysgol Tudweiliog ddaeth draw a’r 14 Rhagfyr, ac mae sesiynau carolau a bingo hefyd wedi eu trefnu. Bydd cyfarfod nesaf am 7.30yh, nos Lun, 13 Chwefror 2017.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]