THE latest community news from Penrhyncoch

Horeb

BYDDWN yn ymuno â chynulleidfa Bethel Aberystwyth ym Methel am oedfa brynhawn Sul nesaf am 2yp dan ofal y Parch Andrew Lenny.

Eisteddfod

CYNHELIR Eisteddfod Gadeiriol Penrhyncoch nos Wener, 27 Ebrill, am 4yp (cystadleuwyr lleol) a dydd Sadwrn, 28 Ebrill, am 1yp a 6yh.

Y beirniaid fydd: nos Wener: Efan Williams, Lledrod, cerdd; Rhian Gareth, Caernarfon, llefaru. Dydd Sadwrn: Nia Morgan, Y Bala, cerdd; Rhian Parry, Sarn Mellteyrn, llefaru a Hywel Griffiths, Aberystwyth, llenyddiaeth.

Yr llywyddion fydd: Gruff Lewis, Talybont, nos Wener; Elin Huxtable, Caerdydd, prynhawn Sadwrn; a Sion Meredith, Cefn-llwyd, nos Sadwrn.

Bu’r cystadlu brwd arferol ar y cystadlaethau llenyddol.

Rhoddir y gadair â’r wobr ariannol eleni gan Sandra, Bethan a Philip er cof am eu rhieni, Glenys a Henry Thomas, Cwmfelin. Testun y Gadair yw Y Bae.

Bydd seremoni y Cadeirio tua 8yh a’r corau i ddilyn yn fuan ar ôl hynny.

Gwobrwyir Tlws yr Ifanc – a roddir eleni eto gan Aaron ac Ashley Stephens, Glan Seilo – ar y nos Wener. Testun llenyddol sydd eleni – Portread o unrhyw ardal yng Nghymru, a’r beirniad yw Hywel Griffiths.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]