THE latest community news from Pistyll

Merched y Wawr

CROESAWODD Gwyneth bawb i’r cyfarfod fis Hydref ac yna darllenodd lythyr yn diolch i bawb am eu cydweitherdiad i wneud cyngerdd Dathlu’r Aur yn gymaint o lwyddiant.

Hefyd dywedodd ein bod yn anfon ein cofion at Mair a Menai oedd dal ddim yn teimlo’n ddigon da i ddod i’r cyfarfod.

Yna croesawodd Gwenno Williams atom i ddangos lluniau a siarad am ei hanes yn crwydro am saith mis, gan gychwyn cyn y Nadolig llynedd.

Cychwynnodd Gwenno drwy fynd a ni i Thailand lle bu am dair wythnos efo’i ffrind Elizabeth.

Yn wir, dyma’r tro cyntaf i Gwenno fod am gymaint o amser o adref, ond dywedodd ei fod yn brofiad byth-gofiadwy.

Aeth a ni i Bankgok ar ôl bod ar yr awyren am 17 awr, a bu yno am ddwy noson, a gwelsom luniau ohoni wedi bod am dro ar gwch hir i weld y ddinas, gan sylwi ar y tai crand ac yna’n hollol wrth gyferbyniol, y tai tlodaidd.

Wedyn dangosodd ei lluniau efo’r eliffantod yn y warchodfa, lle bu yn eu bwydo a rhoi bath mwd iddynt (a hithau’n cael bath yn ôl gan yr eliffantod!!).

Yna aeth a ni i China, Cambodia a Vietnam efo lluniau diddorol ohoni yn caiacio, dringo a phlymio.

I Bali aeth hi a ni wedyn a gwelsom luniau hyfryd iawn, a gorffennodd y daith honno efo lluniau o Malaysia lle bu am 10 diwrnod.

Ond doedd yr hanes ddim wedi gorffen yn fanno, ond mae rhaid cael dillad glân, felly aeth adref am bump dydd i sortio ei dillad cyn codi ei phac wedyn a mynd i Sbaen am dri mis i warchod dau o blant gan roi gwersi Saesneg a mynd o amgylch ysgolion gan brofi bywyd traddodiadol.

Ond mae’n amlwg fod teithio wedi mynd i’w gwaed oherwydd aeth yn syth o Sbaen i Croatia am dair wythnos a gwelsom luniau bendigedig o’r wlad dlos yma.

Diolchodd Eunice i Gwenno am fynd a ni ar siwrne mor ddifyr gan ddweud ein bod wedi dysgu llawer ganddi.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]