THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Coed y Bont

ON Sunday, 2 September, there will be a day for the family at Coed y Bont.

‘Fun in the Woods’ will be held in the woods from 11am until 4pm, and will consist of various activities, including a teddy bears’ picnic, nature trail quiz, fire-starting, woodland craft, guided walks and bushcraft.

Everything will be free of charge, but a donation would be appreciated. The organisations involved are Llais y Goedwig, Vincent Wildlife Trust and Wildlife Trust South and West Wales. Everyone will meet at Coed y Bont car park, but in case of bad weather, check on facebook.com/coedybont first or phone 01974 831 639 by 10am.

Noson Alejandro

MAE Alejandro Jones o Batagonia ar daith yng Nghymru ar hyn o bryd, ac ar nos Wener, 7 Medi, bydd yn canu ac yn dweud ei hanes ym Mar Pafiliwn Pontrhydfendigaid am 7.30yh.

Yn ogystal ag Alejandro, bydd Dai Jones, Llanilar yn llywio’r noson. Mae nifer cyfyngedig o docynnau ar gael am £7. Ffoniwch 01974 831695 i sicrhau tocyn, ac mae yna docynnau ar gael yn Siop y Bont hefyd.

Cyngerdd Dathlu

BYDD Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn dathlu 20 mlynedd o fodolaeth gyda chyngerdd arbennig ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar nos Sadwrn, 1 Medi.

Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan bydd rhai o enillwyr cystadleuaeth y gymdeithas dros y 20 mlynedd: Aled Wyn Davies Llanbrynmair (tenor), Côr Caerdydd, Ensemble Lleisiol Ger y Lli Aberystwyth, Ensemble Edern o Ynys Môn, a Chôr Crymych, gyda mwy o artistiaid i’w cadarnhau.

Arweinydd y noson fydd Garry Owen. Mae tocynnau ar gael o Siop y Smotyn Du, Llanbed; Siop y Pethe a Siop Inc, Aberystwyth; Anrhegaron a Medical Hall, Tregaron; Siop y Bont, Pontrhydfendigaid neu Selwyn a Neli Jones 01974 831695.

Bydd y noson yn cychwyn am 7yh, a phris tocynnau yw £10, gyda phlant oedran Cynradd yn cael mynediad am ddim a phlant oedran Uwchradd am £5.

Anrhydeddu

CAFODD Gwen Herberts, Dolfawr a Mair Jones, Dolawel eu hanrhydeddu adeg yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ddechrau Awst.

Derbyniodd y ddwy dystysgrifau arbennig gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru ar gyfrif eu gwasanaeth am nifer fawr o flynyddoedd i Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid.

Cyflwynwyd y tystysgrifau iddynt gan Garry Owen, BBC Radio Cymru.

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid) a Carmel (Bedyddwyr): Taith Yr Ysgwrn: Dydd Sul, 2 Medi.

Bydd y bws yn cychwyn am 9yb.

Am ragor o fanylion, neu os am sicrhau sedd ar y bws, cysylltwch â Neli Jones 01974 831695.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]