THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Eisteddfodau Teulu James
CYNHELIR Cyfarfod Blynyddol Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen yn Neuadd Pantyfedwen am 7.30yh nos Lun, 5 Tachwedd.
Croeso cynnes i bawb.
Merched y Wawr
BU Merched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch yn cymryd rhan yn Ffair Flynyddol Neuadd Pantyfedwen ar noson Ffair G?yl Grog trwy gynnal stondin gacennau ar nos Fawrth, 25 Medi.
Roedd y gangen wedi cael gwahoddiad i ymuno â changen Tregaron ar nos Fercher, 3 Hydref, gan fwynhau noson hyfryd yn eu plith gyda Chôr Merched Soar yn diddanu, a gwledd o ddanteithion blasus ar ddiwedd y noson.
Diolchwyd am y croeso gan Jasmine Wilson, llywydd cangen Ffair Rhos.
Bydd noson mis Tachwedd yn cael ei chynnal ar y 6ed yn Neuadd Pantyfedwen – noson wedi ei threfnu gan Mari Arch a Neli Jones, gydag Eirwen James o Landdewi Brefi yn wraig wadd.
Croeso cynnes i aelodau hen a newydd ar y noson.
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 14 Hydref – 2yp, Cwrdd Diolchgarwch yng nghwmni’r Parch Ganon Aled Williams, Llanllwni.
Bydd lluniaeth ar gael ar ôl yr oedfa.
Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 14 Hydref – Ymuno â Rhydfendigaid am yr Oedfa Ddiolchgarwch am 2yp.
Services
ST Mary’s Church, Strata Florida (Church in Wales): Harvest Thanksgiving Service on Thursday, 11 October at 3pm with guest preacher Rev Will Strange.
Refreshments will be served at the old school (CADW office) after the service.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.