THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 11 Tachwedd, 10.30yb, Gwasanaeth Sul y Cofio ger y Gofgolofn o dan ofal y Parch Aled Lewis; 11.15yb, Ysgol Sul.
Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 11 Tachwedd, 10.30yb, Gwasanaeth Sul y Cofio ger y Gofgolofn o dan ofal y Parch Aled Lewis.
Eisteddfod Genedlaethol
O GANLYNIAD i’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yng Ngheredigion yn 2020, ac yn Nhregaron yn benodol, bydd cyfarfod cynta pwyllgor y Gronfa Leol yn cael ei chynnal yn Llyfrgell Neuadd Pantyfedwen ar nos Iau, 8 Tachwedd, am 7yh, pryd y bydd cymunedau ardal Ystrad Fflur ac Ystrad Meurig yn cwrdd ar y cyd.
Dewch â’ch syniadau codi arian i’r cyfarfod. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Sioned Fflur ar 01974 831695, 07825 082581 neu [email protected], neu Manon Mai ar 01974 831309, 07531 350191 neu [email protected].
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.