THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Gwasanaethau

Rhydfendigaid (Presbyteriaid): Dydd Sul, 18 Tachwedd, 10yb, Parch Ifan Mason Davies; 11yb, Ysgol Sul; 11.30yb – Plant yr Ysgol Sul yn canu Carolau yn y Farchnad Nadolig yn y pafiliwn.

Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 18 Tachwedd, 2yp, Oedfa Gymun gyda’r Parch Andrew Lenny.

Merched y Wawr

Cynhaliodd Merched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch eu noson fisol yn ystafell yr Ysgol Feithrin ar nos Fawrth, 6 Tachwedd.

Roedd y noson yng ngofal Mari Arch a Neli Jones ac roeddent wedi gwahodd Eirwen James, Llanio fel gwraig wadd.

Cafwyd gwledd o noson yn ei chwmni yn olrhain hanes ei theulu ar ochr ei mam, sef teulu Glanpond, Ffair Rhos.

Daeth Eirwen â’r cyfan yn fyw, trwy ddilyn hanes potyn bach arian pupur a halen a oedd yn berchen i’r teulu, a’r ymchwil a oedd wedi ei wneud er mwyn gwybod hanes y potyn trwy fynd ar y wê ac ymchwilio yn y Llyfrgell Genedlaethol a Llyfrgell Llanbed am hanesion difyr. Cyflwynwyd Eirwen gan lywydd y gangen, Jasmine Wilson a thalwyd y diolchiadau gan Neli Jones. Roedd y te yng ngofal Mari a Neli ac enillwyd gwobrau’r raffl gan Myfanwy Huws ac Eleri Arch.

Bore Sul y Cofio cyflwynwyd torch o Babi Coch ar ran Merched y Wawr yn ystod Gwasanaeth y Cadoediad ger y Gofgolofn gan Jasmine Wilson.

Yr Ysgol Feithrin

Mae Ysgol Feithrin y Bont wedi bod yn brysur yn ddiweddar yn codi arian. Erbyn hyn mae’r Cylch ar agor o 8.15yb hyd 3.45yp, gan gynnig 30 awr o ofal plant am ddim, diolch i’r cynnig Gofal Plant newydd.

Cynhaliwyd Disgo Calan Gaeaf llwyddiannus iawn yn Neuadd Pantyfedwen ac roedd yn braf gweld gynrychiolaeth o gylch eang yn bresennol.

Diolchwyd i Jên Ebenezer am feirniadu’r cystadleuthau, i’r Llew Coch am noddi’r disgo ac i Spar, Tregaron a Morrisons, Aberystwyth am eu cyfraniadau caredig. Diolchwyd yn arbennig i bwyllgor Carnifal y Bont am y cyfraniad hael o £500. Mae’r Ysgol Feithrin yn ddyledus iawn i unigolion ac i fusnesau yn y gymuned am eu caredigrwydd a dangoswyd hynny eto pan gynhaliwyd coelcerth a thân gwyllt ar noson Guto Ffowc yn y Llew Coch, gyda’r arian yn mynd i’r Ysgol Feithrin.

Y digwyddiad nesa fydd noson Strictly Come Dancing a gynhelir ar y cyd â’r ysgol gynradd yng Ngwesty’r Marine, Aberystwyth ar nos Sadwrn, 1 Rhagfyr. Mae tocynnau ar gael yn yr ysgol feithrin a’r ysgol gynradd ac edrychir ymlaen yn fawr at noson arall llawn hwyl.

Christmas market

The annual Christmas market will be held at Pafiliwn y Bont on Sunday, 18 November, from 10.30am am until 4pm. There will be various craft and merchandise stalls, demonstrations, carol singing and refreshments available.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]