THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 12 Mai: 10yb, Parch Elwyn Pryse; Gwasanaeth Bedydd; dim Ysgol Sul. Dydd Sadwrn, 18 Mai: bore coffi Cymorth Cristnogol yn y Festri. Croeso cynnes i bawb. Carmel (Bedyddwyr):

Dydd Sul, 12 Mai: 2yp, Parch Peter Thomas (Oedfa Gymun).

Christian Aid Week

A COFFEE morning in aid of Christian Aid Week will be held at Rhydfendigaid Vestry on Saturday, 18 May, from 10am until 11.30am.

There will be a raffle, cake stall and a miscellaneous stall.

Admission (including tea/coffee and biscuits) will be £1.50, children 50p. A warm welcome to all.

Noson o Ddramau

BYDD G?yl Ddrama Gogledd Ceredigion yn cyflwyno dwy ddrama yn Neuadd Pantyfedwen nos Sadwrn, 18 Mai am 7.30yh.

Bydd Cwmni Dinas Mawddwy yn cyflwyno ‘Pwy yw dy gymydog?’ gan Ifan Gruffydd, a Chwmni Licris Olsorts yn cyflwyno ‘Y Fainc’ gan Emyr Edwards.

Llywydd anrhydeddus y noson fydd Charles Arch.

Pris mynediad fydd £4 i oedolion, £3 i bensiynwyr a £2 i blant dan 16 oed.

Bydd elw’r noson yn mynd tuag at gronfa leol Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020 a G?yl Ddrama Gogledd Ceredigion.

Bydd cyfle i gael paned a sgwrs rhwng y ddwy ddrama a hefyd bydd yna raffl ar y noson.

Cronfa Leol Eisteddfod 2020

BYDD cyfarfod o bwyllgor cronfa leol Ystrad Fflur ac Ystrad Meurig Eisteddfod Ceredigion 2020 yn llyfrgell Neuadd Pantydedwen nos Iau, 9 Mai am 7yh i drefnu’r noson fawr.

Bydd y noson yn cael ei chynnal yn y neuadd ar nos Sadwrn, 22 Mehefin, sef ocsiwn, barbeciw ac adloniant yng nghwmni Tecwyn Ifan.

Mae nifer fawr o eitemau amrywiol a diddorol yn mynd i fod ar werth o dan forthwyl Dafydd Jones, a bydd cyfle i brynu print o lun comisiwn unigryw yr artist Aneurin Meirion Jones.

Gellir archebu tocynnau am y noson oddi wrth Manon Mai (07531 350191) neu Sioned Fflur (07825 082581).

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]