THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): 1 Medi, 10yb Parch Elwyn Pryse. 11yb Trip i Ddolwar Fach a Chapel John Hughes Pontrobert.

Carmel (Bedyddwyr): 1 Medi, 11yb ymuno â’r trip i Ddolwar Fach a Chapel John Hughes.

Dolwar Fach

BYDD y trip i Ddolwar Fach, cartref yr emynyddes Ann Griffiths a Chapel John Hughes Pontrobert yn cael ei gynnal ar ddydd Sul, 1 Medi, gyda’r bws yn gadael Neuadd Pantyfedwen am 11yb (ar ôl yr oedfa yn Rhydfendigaid).

Byddwn yn aros am baned ar y ffordd i fyny ac am swper ar y ffordd adref.

Mae yna le ar y bws, ac os hoffech ddod, rhowch wybod i Neli Jones (01974 831695) mor fuan â phosib.

Noson werin

BYDD pwyllgor Cronfa Leol Ystrad Fflur ac Ystrad Meurig Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020 yn cynnal noson yng nghyntedd Pafiliwn y Bont nos Wener, 27 Medi am 7.30yh, yng nghwmni’r gr?p gwerin Hen Fegin o sir Drefaldwyn, gyda chanu, dawnsio gwerin, rhostio oen a raffl.

Mae tocynnau ar werth gan Sioned Fflur (07825 082581) a Manon Mai (07531 350191). Pris tocynnau (yn cynnwys bwyd) fydd £10 i oedolion a £5 i blant. Nifer cyfyngedig ar gael.

Treialon c?n defaid Ffair Rhos

ELENI eto cafwyd treialon llwyddiannus ar lethrau llynnoedd Teifi, drwy garedigrwydd teulu Owen, Tynddôl.

Roedd y tywydd yn berffaith o 8yb hyd nes i’r ci olaf redeg ar ôl 6yh - 70 o g?n i gyd yn y ddau ddosbarth.

Y beirniad eleni oedd Edgar Price, o Bont Senni. Diolch iddo ef am ei waith trylwyr ac i’w briod am wneud y gwaith cofnodi iddo drwy’r dydd.

Y llywydd eleni oedd un a anwyd yn Ffair Rhos, sef Llinos Jones, Maes-y-Dderwen, Pontrhydfendigaid.

Cyflwynodd gwpan hardd yn yr adran agored dull cenedlaethol er cof am ei thad, Morgan Davies, un a fu mor weithgar a theyrngar i’r treialon am flynyddoedd maith.

Hyfryd oedd gweld ei dwy chwaer, Ann a Gwenda, yn bresennol hefyd.

Diolch i’r pwyllgor bach am eu gwaith diwyd yn flynyddol i gadw’r treialon (sydd bellach dros 100 oed) i fynd, sef Dai Owen, cadeirydd; William Jones, is-gadeirydd; Glyndwr Owen, trysorydd; a heb anghofio’r ddau ifanc a fu wrthi’n dal drwy’r dydd ac yn sicrhau bod y rhif cywir o ddefaid yn cael eu gollwng allan bob tro, sef Gwyndaf Owen a William Lewis, ac heb anghofio hefyd g?r yr arlwy, Non Jones a Kangaloos.

Llongyfarchiadau mawr i Dewi Jenkins, Talybont ar ei gamp o gipio’r dwbl, dau gwpan mewn cystadleuaeth o safon.

Canlyniadau:

Dull cenedlaethol: 1. Dewi Jenkins gyda Don – colli 10; 2 Rona Davies gyda Nel – colli 12; 3. Eirian Morgan gyda Glen – colli 16; 4 Irwel Evans gyda Bob – colli 17 a hanner; 5. Eirian Morgan gyda Nel – colli 20; 6. John Wheaton gyda Kerry – colli 21.

Dull de Cymru: 1. Dewi Jenkins gyda Don – colli 6; 2. Jeff Evans gyda Glen – colli 8; 3. Irwel Evans gyda Bob – colli 10; 4. Daniel Rees gyda Chip – colli 14; 5. John Price gyda Holly – colli 16; 6.Irwel Evans gyda Jan – colli 17 a hanner.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]