THE latest community news from Pontrhydfendigaid.

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 19 Mawrth: 10yb, Lyn Ebenezer (Oedfa Undebol); 11yb, Ysgol Sul. Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 19 Mawrth: 10yb, Ymuno â Rhydfendigaid am yr Oedfa Undebol.

Services

STRATA Florida Churches (Church in Wales): Sunday, 19 March: 8.30am, Holy Eucharist at St David’s Church.

Coed y Bont

NEXT Sunday, 19 March is the third volunteer session of 2017. Meeting at 10.30am at the car park and shall make way into the upper woodland area (Coed Cnwch) to complete this quarter’s halo thinning and small tree felling exercise. Tools and PPE are provided together with guidance and supervision for anyone who wasn’t able to attend the training course. They would dearly like to see you there to help in maintaining and improving your community wood-land so go ahead and give a hand if you are able.

Merched y Wawr

CYNHALIODD Merched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch eu Cawl a Chân eleni trwy ddathlu yn ystafell chwaraeon Neuadd Pantyfedwen. Gwahoddwyd gwyr a ffrindiau hefyd i wledda gyda’r aelodau, a mwynhawyd y cawl blasus, y pwdin reis a’r darten afalau a oedd wedi eu paratoi gan yr aelodau. Croesawyd pawb yn gynnes gan Neli Jones, y llywydd, a thrad-dodwyd y gras cyn bwyd gan Ian Huws. I ddilyn, cafwyd gwledd arall yng nghwmni’r talentog Dafydd Jones, Gwnnws, a fu’n diddanu gydag amrywiaeth o ganeuon, yn glas-urol, alawon gwerin a cherdd dant, ynghyd ag adroddiad digri. Diolchwyd i Dafydd ac i bawb a fu ynghlwm gyda’r paratoadau gan Jên Ebenezer, ac enillwyd gwobrau’r raffl gan Alun Davies, Selwyn Jones a Ian Huws.

Y Barcud

BYDD noson goffi flynyddol y papur bro yn cael ei chynnal eleni yn Neuadd Pantyfedwen, ar nos Wener, 31 Mawrth, am 7yh. Yn ogystal â mwynhau te, coffi, bisgedi a chlonc, bydd yna gyfle i glywed eitemau gan ddisgyblion yr ysgolion lleol, a bydd stondin yn gwerthu cynnyrch cartref a raffl ar gael hefyd. Yn ogystal â hyn i gyd, bydd yna gyfle i ail-ymaelodi â Chlwb 100 Y Barcud, neu i ymaelodi o’r newydd. Agorir y noson gan un o ‘Fechgyn y Bont’, Gareth Huws, Caerdydd (neu Gareth Y Bakery). Pris mynediad fydd £3 (yn cynnwys y lluniaeth ysgafn), a phlant ysgol yn cael mynediad am ddim. Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at gronfa’r Barcud. Dewch yn llu i gefnogi.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]