THE latest community news from Porthmadog

Penamser Estate Chapel

SUNDAY: 10am-11am, Main preaching service with bilingual communion; first and third Sundays: 11.10am-noon, Sunday School (for all ages); second and third Sundays: 11.10am-noon, Section meetings (men, women, youth, children).

A warm welcome to everyone.

Merched y Wawr

NOS Fawrth, 15 Ionawr, daeth yr aelodau at ei gilydd ar gyfer noson gartrefol o Frethyn Cartref.

Pwt o stori oedd y thema ac aethom gyda pum aelod ar drywydd gwahanol a hynod ddiddorol.

Aeth Nia a ni i gartref hen deulu ym Mhenrhos, yna i Batagonia efo Gwen Rees, i groesi’r Fenai mewn fferi 200 mlynedd yn ôl efo Ann Trefor, ar wyliau i Georgia ac Armenia efo Vera, ac i hanes canoneiddio’r lleian Edith Stein gan Carys.

Yn rhyfeddol roedd cyd-ddigwyddiadau yn amlwg ymhob stori!

Croesawyd pawb, yn arbennig Margaret Williams ar ôl cyfnod heb fod yn dda a Mayumi ar ôl cael triniaeth i’w llygad.

Cydymdeimlwyd efo Gwen Puw Jones ar golli ei g?r Vernon, a chofio at Beti Wyn Owen sy’n cael gofal ym Mhlas Gwyn.

Diolchwyd am y rhoddion i’r Banc Bwyd cyn y Nadolig ac i Carys am drefnu ac i’r aelodau aeth i noson bowlio deg y Rhanbarth ar ein rhan.

I ddiweddu noson bleserus cafwyd paned gan Vera, Rhiannon Williams a Penny ac enillwyd raffl, rhoddedig gan Sulwen a Gwen, gan Penny.

St John’s Church

AN event of soup and a sweet (cawl a phwdin) is being held at y Ganolfan on Tuesday, 5 February, between noon and 1.30pm.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]