THE latest community news from Porthmadog

Fungi Forage

BYWYD Gwyllt Glaslyn Wildlife will be holding its annual Fungi Forage on Saturday, 12 October, in Hafod Garegog woodland with Cynan Jones of The Mushroom Garden/Yr Ardd Fadarch.

The event will start at 10am from the Glaslyn Osprey Visitor Centre at Pont Croesor.

As there is very little parking space in Hafod Garegog, car sharing is suggested from the visitor centre to the woodland where the walk will begin at 10.30am.

Please wear suitable shoes and clothing for a woodland walk as some areas may be slippery and boggy.

Children will need to be supervised at all times.

Merched y Wawr

BRAF ar noson gynnes a Ha’ bach Mihangel yn ei anterth oedd ail ymgynnull ym mis Medi. Cynnes hefyd oedd y croeso a roddwyd i’r aelodau gan Margaret a Gwen, y llywyddion. Llongyfarchwyd tair o’r aelodau: Carys, Betsan a Meryl ar gyrraedd oedran arbennig a Rhiannon ar ddod yn nain unwaith eto. Dymunwyd yn dda i Beryl a da oedd clywed ei bod yn well.

Nia Morgan a’i pharti o’r Bala oedd ein gwesteion ac yn ei chyflwyniad pwysleisiodd Margaret cymaint oedd ein braint i gael ein diddanu ganddynt. Pa ffordd well i agor y tymor nag yng nghwmni’r criw talentog yma? Mae Nia, sy’n arian byw, yn adnabyddus yn ei hardal am ei holl waith yn meithrin talentau ifainc ym myd y canu. Roedd safon uchel perfformiadau’r cyfranwyr ifainc, Elan, Mabon, Cadog a Huw yn dystiolaeth o hynny ac yn glod i Nia. Fe’n cyffyrddwyd lawer i dro yn ystod y cyfarfod gyda’u hangerdd wrth ganu caneuon fel Hawl i Fyw yn ogystal â’u datganiadau amrywiol eraill o ganeuon gwerin i gerdd dant.

Yn wir mae ‘na ddyfodol addawol o’u blaenau mewn llawer i faes. Diolchwyd iddynt am noson o adloniant safonol a graenus ac am greu awyrgylch arbennig gan Ann, heb anghofio’r criw tê. Bydd ein cyfarfod nesaf ar 15 Hydref pan ddaw Rhiannon Parry i sgwrsio am ‘Grefftwaith yn dwyn atgofion’.

Oes gennych awydd ymuno â ni? Mi fydd y croeso yn dal yn gynnes.

Yn ystod gemau Cwpan Rygbi’r Byd hyfryd oedd clywed Mayumi, un o ffyddloniaid Merched y Wawr a’i mab Carwyn yn siarad gyda Dewi Llwyd ar ei raglen fore Sul. Un o Siapan yn wreiddiol yw Mayumi ac yno y ganwyd Carwyn. Maent wedi ymgartrefu ers blynyddoedd ym Morthygest a hynny’n dilyn marwolaeth Alun Thomas, g?r Mayumi a thad Carwyn a hanai o’r pentref.

Bob mis Awst byddant yn ymweld â’r teulu yn Siapan lle mae mam Mayumi yn dal i fyw. Mae Mayumi wedi bwrw iddi i ddysgu’r Gymraeg ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf bu’n drysorydd y gangen. Llongyfarchiadau gwresog i’r ddau.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]