THE latest community news from Porthmadog

WI

CAWSOM noson llawn hwyl yng nghyfarfod olaf 2019 ar 17 Rhagfyr.

Cyfrannodd ein haelodau i gyd at yr adloniant neu at y lluniaeth i greu awyrgylch gartrefol iawn yn Ystafell Glaslyn.

Rhiannon a Carol oedd y rhai oedd wedi cynllunio rhaglen mor amrywiol ar ein cyfer ni.

Dechreuasom efo geiriau a gweddi dymhorol pan gododd un ar ôl y llall ar eu traed.

Wedyn, cawsom gêm amhosibl i deimlo ac adnabod pethau bach mewn bagiau brethyn.

Ond y campwaith oedd Sinderela “deg-munud”. Eisteddodd y cymeriadau mewn gwisgoedd anhygoel mewn rhes. Codasant i’w traed i ddweud eu hanes wrthym ni efo gwedd “deadpan”.

Roedd Sinderela (Carol) yn drist iawn tan y diwedd, pan aeth hi yn hapus - am ryddhad! Roedd y gynulleidfa yn rholio chwerthin.

I orffen, cawsom swper bach yn cynnwys brechdanau, mins peis a chacen ‘stollen’ - blasus iawn.

Diolchwyd i bawb oedd wedi gweithio mor galed i baratoi’r cwbl.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y flwyddyn newydd ar nos Fawrth, 21 Ionawr.

Trafodwyd amryw o drefniadau’r gangen a chydymdeimlwyd â theulu a ffrindiau’r ddiweddar Beti Wyn Owen, cyn-lywydd ein cangen ac un a weithiodd yn frwd yn ei hardal.

Croesawodd ein swyddogion, Margaret Williams a Gwen Rees Jones, ein gwraig wadd i’n plith, sef Sharon Roberts.

Un o blant y Port ydyw Sharon ac yn ferch i aelod o hen deulu’r Port, sef R M Jones (Ginger Beer). Bu Sharon yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Eifion Wyn ac Ysgol Eifionydd. Arddangos ei gwaith celf a wnaeth, sef gwaith coed amrywiol. Anrhegion priodas, Nadolig, bedydd ayyb, y cwbl wedi eu hadeiladu o ddefnydd ail-gylchu.

Traddododd y cyfan mewn ffordd gartrefol a llawn hiwmor.

Dengys dalent a llawer o ddychymyg a mwynhad yn y gwaith. Cawsom gyfle i brynu rhai o’r offer a da fuasai cael cyfle i ddysgu sut i’w llunio.

Diolchwyd gan Hefina ac Ann Trefor a enillodd y raffl, rhoddedig gan Susan a Vera. Darparwyd y baned gan Pat, Carol, Mayumi a Rhiannon.

Bydd y cyfarfod nesaf ar nos Fercher, 19 Chwefror.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]