THE latest community news from Porthmadog

The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints

THIS coming Sunday in Penamser Estate Chapel: 10am, Main Service (with bi-lingual communion); 11.20am, Gospel Study (Sunday School for all ages); 12.10pm, Section meetings (men, women, youth, children).

Everybody welcome.

Croeso i bawb.

Cymdeithas y Deillion

CYNHALIWYD cyfarfod y clwb yn y Ganolfan brynhawn Iau, 16 Tachwedd, pan ddaeth nifer dda o’n haelodau at ei gilydd.

Ifanwy Williams oedd yn llywyddu. Agorodd trwy estyn croeso cynnes i bawb oedd yn bresennol, yn arbennig i’r rhai oedd wedi bod yn cwyno, sef Jane Murray, Gwyneth Owen a Dorothy Wright.

Anfonodd ein cofion diffuant at deulu Myra Weale, a fu farw yn ddiweddar, un a fu’n aelod ffyddlon a gwerthfawrogol iawn o’r Clwb tan y misoedd diwethaf.

Bydd colled ar ei hôl, roedd bob amser mor annwyl a chyfeillgar ac wedi gwisgo mor ddel, bu’n bleser cael ei chwmni.

Yna, estynnodd groeso i’r gwesteion, sef disgyblion yr Adran Iau yn Ysgol Talsarnau o dan arweiniad a goruchwyliaeth Rhys Glyn a Gwion Owens.

Erbyn hyn, Mr Glyn yw pennaeth Ysgol Cefn Coch ym Mhenrhydeudraeth yn ogystal ag Ysgol Talsarnau. Bydd yn gweithio yn Nhalsarnau am dri bore yr wythnos a gweddill yr amser yn Ysgol Cefn Coch; Mr Owens yw pennaeth safle Ysgol Talsarnau yn absenoldeb Mr Glyn.

Braf oedd clywed fod y berthynas a’r drefniadaeth yn gweithio yn arbennig iawn, fod cyfle i rannu arbenigeddau staff a bod y disgyblion o’r ddwy ysgol yn elwa llawer o gyd weithio ar wahanol prosiectau.

Daeth pob un o’r 22 o ddisgyblion yr Adran Iau atom, pob un yn awyddus i gymryd rhan ac yn ymddwyn yn ardderchog gydol y pnawn.

Cafwyd cyflwyniadau cerddorol o safon uchel iawn, pob disgybl yn cymryd rhan yn hyderus ac wedi dysgu eu gwaith yn rhagorol.

Cafwyd perfformiadau unigol, deuawd, grwpiau, partïon graenus a hwyliog; roedd pob un yn mwynhau canu caneuon fel Plant y byd, Brenin y jyngl, a Braf yw bwyta, pob un yn morio canu yn y côr.

Gwelwyd dawn offerynnol y disgyblion hefyd gyda pherfformiadau arbennig ar y piano ynghyd â’r perfformiad a enillodd wobr iddynt yn y gystadleuaeth cerddoriaeth greadigol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Braf oedd gweld cyfraniad pob disgybl i gyflwyniad llafar a baratowyd ar gyfer Gwasanaeth Diolchgarwch yr ysgol, pob un yn gwybod eu lle a’u gwaith, heb bwt o bapur!

Roedd aelodau’r clwb a’r rhai oedd yn gweini wedi gwirioni gyda’r rhaglen a gynigiwyd yn ystod y pnawn ac wedi mwynhau i’r eithaf .

Ifanwy Williams gynigiodd y diolchiadau i’r plant ac wrth gwrs i Mr Glyn a Mr Owens am eu gwaith yn hyfforddi a chefnogi’r disgyblion, nododd fod yr ysgol yn hynod lwcus o gael dau oedd mor ymroddedig i sicrhau’r gorau i’r disgyblion.

Wedi’r adloniant, cafwyd gwledd arall i ddilyn , sef te pnawn o frechdanau sawrus a chacennau blasus wedi eu paratoi gan Manon Adams, mawr yw ein diolch iddi am ei gwaith , diolchodd Ifanwy iddi hithau ac i’r merched oedd yn gweini, sef Eve Price, Gill Morris, Pat Jones a Mair Millar.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]