THE latest community news from Pwllheli
Capel y Drindod
FORE Gwener, 29 Mawrth: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol yn Yr Ala.
Sul, 31 Mawrth: 10yb, Parch Angharad Roberts; Ysgolion Sul fel arfer; 5yh, Parch Carwyn Siddall.
Llun, 1 Ebrill: 10.30yb, Oedfa Undebol y Grawys yng Nghapel yr Ala; 6yh, Clwb y Plant.
Mercher, 3 Ebrill: 7yh, Clwb Ieuenctid.
Aelwyd Chwiorydd – Capel y Drindod
AR brynhawn Llun, 25 Chwefror, cynhaliwyd cyfarfod o aelwyd y prynhawn.
Llywydd y cyfarfod oedd Eirlys Jones, hi hefyd gymrodd y gwasanaeth Dechreuol.
Treuliwyd y prynhawn yng nghwmni cynyrchiolydd o’r Ganolfan Hamdden.
Yr oedd wedi dod a taflenni efo hi yn amlinellu y gwahannol gyrsiau ac ati oedd ar gael yn y Ganolfan.
Wedyn fe fu yn rhaid I’r chwiorydd wneud ymarfer corff syml, yn ac o gwmpas ei cadeiriau.
Hefyd bu son am fwyta’n iach. Nos Fawrth, 5 Mawrth cynhaliwyd cyfarfod o Aelwyd y Hwyr.
Llywydd y noson oedd Catherine Hefina Jones.
Wedi croesawu pobl a holi y cwestynnau arferol a canfod fod Jean Jones I’w llongyfarch ar ddod yn hen nain, soniodd am y cyfarfod cenhadol a’r bwrdd gwerthu.
Yna aeth ymlaen I’r gwasanaeth dechreuol – themau llongau a cyfrifoldeb y capten.
Yna aeth ymlawn i croesawu g?r gwadd y noson, Gwyndaf Hughes, cyn-athro gwaith coed yn ysgolion Frondeg a Glan y Môr, wedi ei eni a’i fagu yn Nhrefor. Hefyd dywedodd am ei gysylltiad hefo’r mor a hwylio.
Ei thema oedd Clwb Hwylio Pwllheli sef y criw ifanc brwdfrydig sydd yn dysgu y greft o hwylio.
Yr oedd ganddo lyniau ar ei gyfrifiadur yn cynnwys hanes y rhodd o gwch I gychwyn y clwb.
Hefyd soniodd am y gwahannol gwpannau oedd I’w henill a fel yr oedd y rhai ifanc yn magu hyder wrth fynd ymlaen.
Diolchwyd iddo gan y llywydd ac yr oedd y te yng nghofal Lyddia a Jean Jones, cafwyd teisennau cri.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





-(1).jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.