THE latest community news from Pwllheli

Aelwyd Chwiorydd Capel y Drindod

DDYDD Llun, 11 Mawrth cynhaliwyd Cyfarfod Cenhadol.

Y llywydd oedd Morfydd Roberts, a soniodd ei fod yn gyfarfod olaf Aelwyd y Prynhawn am y tymor.

Diolchodd i Jane Lloyd a Catherine Hefina am eu gwaith yn ystod y tymor.

Yna cymerodd Valmai y gwasanaeth dechreuol – Comisiwn Iesu. Yna cyflwynwyd g?r gwadd y prynhawn, sef Andrew Setattree. Soniodd am gynllun Trobwynt – ymgais i gael y neges i gyrraedd pobl ifanc a phlant. I ddiweddu’r prynhawn cafwyd panad dan ofal Elin Mai a Mair.

Nos Fawrth, 19 Mawrth cynhaliwyd Cyfarfod Cenhadol Aelwyd yr Hwyr.

Llywydd y noson oedd Enid Roberts, y gwasanaeth dechreuol – Gwanwyn. Derbyniwyd ymddiheuriadau Megan a Gwyneth a llongyfarchwyd Ann Jones ar ei phenblwydd yn ddiweddar.

Yna croesawyd g?r gwadd y noson, sef Arthur Meirion Roberts. Cychwynnodd drwy ddweud ein bod yn byw mewn dyddiau dyrys Brexit ac ati. Tasa ein plant neu wyrion yn gofyn ‘Beth ddaru chi?’ beth fyddai ein hateb.

Sôn am genhadaeth, am Thomas Roberts a hefyd am ei gyfnod yn y Wladfa. Ei neges fod wnelo Duw â ni i gyd. Roedd y te dan ofal Jane Williams ac Eirlys Jones.

Clwb y Bont

‘GEIRIAU Gerallt’ oedd testyn sgwrs Y Prifardd Myrddin ap Dafydd, sef portread cyfoethog o’r bardd Gerallt Lloyd Owen a’i gyfraniad pwysig i lenyddiaeth Cymru.

Ef a ysgogodd y deffroad ymhlith beirdd ifanc diweddar yn nhraddodiad y canu caeth. Cyfeiriodd at y llais arbennig, y galon gynnes a’r hiwmor bachog yn ystod sesiynau’r Talwrn.

Yn y dyfyniadau o’i gerddi gwelsom ddyfnder seicolegol y geiriau unigryw, nas gellir eu cyfieithu.

Bardd y Chwyldro ac yn hil Llywarch Hen a Wilfred Owen. Gweithredu oedd yn bwysig iddo ac yn ei gerddi daeth yn lais i gydwybod Cenedl.

‘ ....a mawr fel trem o Ferwyn’.

Capel y Drindod

GWENER, 5 Ebrill: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol.

Sul, 7 Ebrill: 10yb a 5yp, Gweinidog; Ysgolion Sul fel arfer; 7yh, Oedfa’r Ddwy Ofalaeth yn Y Ffôr.

Llun, 8 Ebrill: 10.30yb, Oedfa Undebol y Grawys yng Nghapel Penlan; 6yh, Clwb y Plant.

Mawrth, 9 Ebrill: 7yh, Y Sied.

Mercher, 10 Ebrill: 7yh, Clwb Ieuenctid.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]