THE latest community news from Pwllheli
WI
THE last meeting took place on 3 September, at the Ala Road Chapel Vestry, when speaker Dr Michelle Iorworth, on behalf of the British Heart Foundation, gave a very informative and thought-provoking talk on cardiac resuscitation and the use of a defibrillator.
The vote of thanks was proposed by Sandra Jones and the raffle, donated by Janet Owen, was won by Dilys Williams.
The tea hostesses were Elin Rhys Williams and Lydia Jones.
The next meeting, on 1 October at 7pm, will be addressed by Vanessa Jones of Vanessa Paper Cuts. New members always welcome.
Merched y Wawr
CYNHALIWYD cyfarfod cyntaf Merched y Wawr cangen Pwllheli nos Iau, 5 Medi, am 7yh yn Festri’r Drindod.
Cafwyd croeso cynnes gan Margaret Hughes, llywydd y gangen, gan obeithio bod pawb wedi mwynhau gwyliau’r haf.
Gyda Mari yn cyfeilio, canwyd Cân Merched y Wawr.
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Rhiannon Hughes, Margo a Marilyn Lewis, sydd ddim yn teimlo’n dda – Menna sydd wedi cael damwain ac yn gwella.
Llongyfarchwyd pawb oedd wedi llwyddo yn yr Eisteddfod, yn enwedig Guto Dafydd, Pwllheli (yn wreiddiol o Drefor) ac i Myrddin ap Dafydd ar ei lwyddiant fel Archdderwydd yr Eisteddfod.
Trafodwyd ysbwriel – aros tan mis nesaf.
Bydd Pwyllgor Rhanbarth, ar nos Iau, 26 Medi, am 7.30yh yn Chwilog.
Derbyniwyd mantolen gan y trysorydd a diolchwyd iddi ac i Ses Roberts, Siabod am yr archwyliad.
Talwyd diolchiadau hefyd i’r ddwy Mair am eu holl waith o drefnu a pharatoi rhaglen rhagorol am y flwyddyn sydd i ddod.
Dangoswyd tystysgrif wedi ei fframio yn dangos canmoliaeth am rhaglen 2018/19.
Derbyniwyd llythyr o diolch am y rhodd gan Ann a Griff.
Cyflwynwyd y ddwy Mair i gynnal y noson ar harddwch – atgofion am ffordd o gadw croen iach – d?r yn bwysicach na dim.
Dangosodd Mair Lloyd Davies sebonau, canwyll ogla da a sôn am yr enwau pwysig oedd yn gwneud yr holl golur ar ein cyfer.
Roedd gan Mair Williams hanes ei theulu a’i chyfnither oedd yn h?n o lawer ac roedd Mair yn dotio ar ei harddwch ac yn ceisio ei copïo pan yn hyn. Dangosodd lluniau ohoni â’i dwy chwaer a llun o’r cyfnither.
Gorffenodd Mair Lloyd Davies yn dweud na wyddai os oedd y colur wedi gweithio ond erbyn hyn – ac yn ara – tynnwyd tiwb o ‘Poly Filla’ o’r bag – a dyma sydd ei angen nawr meddai!! Tybed wir! Gorffennodd Mair Williams drwy agor ei bag colur – peth pwysig iawn i’w gael a dangosodd ‘Compact” ffasiwn anghenrheidiol.
Noson arbennig o dda gyda amryw o syniadau hen a newydd, heb ddatgelu’r cwbwl!
Cofiwch gysylltu gyda’r dwy os am fwynhau noson hwyliog!
Cafwyd paned a diolchwyd iddynt ac i ferched y te gan Margaret Hughes.
Capel y Drindod
SUL, 15 Medi: 10yb a 5yh, Gweinidog; Ysgolion Sul fel arfer; 7yh, Oedfa’r Ddwy Ofalaeth.
Llun, 16 Medi: 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Cyfarfod Gweddi neu Seiat yr Ofalaeth.
Mercher, 18 Medi: 7yh, Clwb Ieuenctid.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.