THE latest community news from Pwllheli

Aelwyd Chwiorydd y Drindod

NOS Fawrth, 26 Tachwedd cynhaliwyd ffair Nadolig y Chwiorydd am 7yh.

Roedd y stondinau arferol yno, yn cynnwys un gan bobl ifanc yr eglwys.

Agorwyd y ffair yn swyddogol gan Bethan Wyn.

Cafwyd cefnogaeth arbennig a hoffai’r eglwys ddiolch i un ag oll am eu cefnogaeth.

Ar ddydd Llun, 9 Rhagfyr, cynhaliwyd cyfarfod yn Gwalia am de bach Nadolig.

Mwynhau cwmnïaeth ein gilydd a sgwrsio, rhoi y byd yn ei le, os yn bosib!

Prynhawn anffurfiol â phawb yn mwynhau.

Clwb y Bont

SIARADWR gwadd cyntaf y flwyddyn oedd Wyn Peate, Golan.

Bu’n athro am 18 mlynedd cyn cychwyn busnes, oedd yn cyfuno ei brofiad dysgu a’i ddiddordeb dwfn mewn cerbydau a pheiriannau, a dod yn hyfforddwr gyrru.

Adroddodd lu o straeon difyr a doniol o’i brofiadau yn hyfforddi dros y blynyddoedd.

Daeth yn amlwg fod ymwybyddiaeth o seicoleg yn hanfodol i’r gwaith, yn ogystal a mesur helaeth o hiwmor ac amynedd.

Roedd ei gyflwyniad graenus a’i ddoniolwch naturiol yn ychwanegu at fwynhad y noson.

Capel y Drindod

SUL, 12 Ionawr: 10yb, Parch Ron Rees; Ysgolion Sul fel arfer; 5yh, Parch Ioan Wyn Gruffydd.

Llun, 13 Ionawr: 2yp, Aelwyd y Chwiorydd; 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Cyfarfod Gweddi neu Seiat yr Ofalaeth.

Mawrth, 14 Ionawr: 7yh, Y Sied.

Mercher, 15 Ionawr: 7yh, Clwb Ieuenctid.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]