THE latest community news from Pwllheli.
Cymdeithas Ddiwillianol
CYNHALIWYD noson Nadoligol mewn cyfarfod, nos Wener, 16 Rhagfyr. Llywyddwyd gan Thomas Williams a drefnodd y cyfarfod gyda’i briod, Jean. Cyflwynwyd eitemau gan gynnwys adroddiad a chân addas i’r Wyl gan rai o barti Merched y Wawr y dref, a chafwyd cyflwyniad gan y Pedwarawd Meibion, sef Richard, Dan, Eifion a Griff ac unawd gan Merfyn Jones. Cyfeiliwyd gan Morfydd Roberts ar y piano a Griff Owen wrth yr organ. Roedd cyfle hefyd i’r gynulleidfa gyd-ganu nifer o garolau poblogaidd. Diweddwyd y noson bleserus gyda phaned a mins pei. Diolchwyd i bawb gan y gweinidog, y Parch W Bryn Williams. Bydd ail ran y tymor yn dechrau ar nos Wener, 13 Ionawr gyda sgwrs ar ‘Y Forwyn Goch’ gan y Parch Arthur Meirion Roberts.
Capel y Drindod
ROEDD y Festri Fawr yn llawn i’r ymylon fore Sul, 18 Rhagfyr, pryd cyflwynodd plant yr Ysgol Sul a chlwb 6 tan 7 y capel Stori’r Geni Adroddwyd y stori gan y tri gwr doeth gyda nifer o leisiau yn dod allan o glawr y Beibl. Ad-dysgwyd hwy gan Bryn a Nia Williams ynghyd ag athrawon yr Ysgol Sul. Roedd yn bleser gwrando ar y plant yn cydganu yn effeithiol i gyfeiliant Nia. Diolchwyd i bawb gan lywydd y mis, Eddie Griffith. Am 5yh, eto yn y Festri Fawr, roedd y gwasanaeth dan ofal clwb ieuenctid y capel. Daeth cynulleidfa dda i wrando arnynt yn adrodd Stori’r Geni ar lafar ac ar gân. Cafwyd cyfeiliant rhai o aelodau Band Pwllheli i’r gynulleidfa ymuno mewn carolau wrth y preseb tu allan i’r capel. Trefnodd y ieuenctid baned a mins pei ar y diweddd i bawb.
Bridge Club
THE club will meet on Mondays and Wednesdays at 7pm at the Vestry, Ala Road. Visitors and new members welcome.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.