THE latest community news from Pwllheli.
Chwiorydd y Drindod
LLYWYDDWYD cyfarfod o Aelwyd yr Hwyr nos Fawrth, 17 Ionawr gan Jane Lloyd. Anfonwyd cyfarchion at un o flaenoriaid yr eglwys, sef R D Williams. Arweinwyd y defosiwn ddechreuol gan Mari Evans a gymerodd y gerdd Eirlysiau yn destun.
Rhoddwyd croeso cynnes i’r Parch Iwan Llewelyn Jones, Borth- y-Gest yn wr gwadd. Testun ei sgwrs oedd “ Y Seren Wib”, â’r seren wib dan sylw oedd y Parch R O G Williams.
Er eu bod yn wreiddiol o Pencaerau symudodd teulu’r Parch i Lanystumdwy i fyw pan yn ifanc. Yn dilyn ei addysg yn yr ysgolion lleol aeth yn ei flaen i’r coleg ym Mangor yn yr amser pan oedd pawb angen rhywfaint o adloniant i ysgafnhau eu bywydau wedi’r Ail Ryfel Byd. Hwn oedd cyfnod y Dr Sam Jones ac roedd yr aelodau wrth eu boddau yn dwyn atgofion o’r gân ysgafn Mw mw, Me me, Cwac cwac, Nynni ydyw triawd y buarth ac eraill a fwynhawyd ar y radio bryd hynny.
Yn ddiweddarach aeth Robin yn ei flaen i Brifysgol Aberystwyth lle graddiodd mewn diwinyddiaeth. Yn dilyn ei ordeinio i’r weinidogaeth, derbyni-odd alwad fel gweinidog i Dinmael a Glanrhyd. Ym 1960 symudodd yn weinidog i Penrhyndeudraeth, Minffordd a Chapel Croesor lle oedd yr athrylith Bob Owen yn flaenor.
Clywyd hefyd am ddarlith Y Tri Bob, ac fel cafodd Robin y cyfle i fod yn un o gyflwynwyr cyntaf y rhaglen radio Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Bu’n gysylltiedig â nifer o raglennni radio eraill hyd at 1973, gan ganolbwyntio wedyn ar ysgrifennu nifer fawr o lyfrau a chreu cymeriad Emrys Aled Parry ar gyfer y rhaglen Rhwng Gwyl a Gwaith.
Wrth ddiolch i’r Parch Iwan Jones am sgwrs ddiddorol a hwyliog iawn, cyfeiriodd Catherine Hefina Jones at Robin Williams fel dyn arbennig ac amryddawn tu hwnt.
Ala Road
MORNING worship at the English Presbyterian church, Ala Road this coming Sunday, 29 January will be led by the Rev Edmund Owen. The service starts at 11.15am and a warm welcome is extended to all.
Oefaon
CAPEL Seion: 10yb Diacon Stephen Roe.Capel Penlan: 10yb Parch Ioan Wyn Gruffydd.
St Peter’sSUNDAY, 10.30am Eucharist/Offeren; Monday 9.30am Celtic Morning (Prayer and Meditation); Tuesday, 10.30am Holy Eucharist/Yr Offeren Sanctaidd; Friday 3.30pm Meditation, Blessed Sacrament and Benediction/Myfyrdod, Y Sacrament Bendigaid a Bendith; Saturday, 10am Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd. The church is open between 2pm-3pm on Tuesdays and Fridays for the foodbank.
Catholic Masses in the parish
ST PETER’S, Pwllheli: Sunday 9am; Saturday 6.30pm. Church of the Most Holy Redeemer, Porthmadog: Sunday 11.30am.
Capel y Drindod
DYDD Iau, 26 Ionawr - 10yb Te a Thost yn Festri Berea, Efailnewydd.Gwener, 27 Ionawr - 10yb Cyfarfod Gweddi Undebol yn Festri’r Ala. 7yh Cymdeithas Ddiwylliannol.Sul, 29 Ionawr - 10yb a 5yh Oedfaon yng ngofal y Parch Edmund Owen. Ysgolion Sul fel arfer.Llun, 30 Ionawr - 6yh Clwb y Plant. 7.30yh Astudiaeth Feiblaidd. Mawrth, 31 Ionawr - 7yh Aelwyd y Chwiorydd. Mercher, 1 Chwefror - 7yh Clwb Ieunectid.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.