THE latest community news from Pwllheli.

School fundraiser

After many successful entrepreneurship schemes over the last months, including; selling Christmas trees made out of pallets, sewing cushions and making bird houses, pupils from Ysgol Pont y Gof have used the funds to buy 10 Chromebooks for the school for education purposes.

Merched y Wawr

LLYWYDD cyfarfod mis Chwefror o’r gangen leol oedd Marilyn Lewis a chroesawodd Marian Jones, perchennog Siop Flodau Eluned atom.Dangosodd Marian sut i osod blodau mewn gwahanol gynhwysyddion bychan, fel cwpanau te a chwpanau wy.

Llwyddodd Lydia Jones i wneud gosodiad bach a del mewn cwpan wy gyda’r blodau a’r dail o’r Siop Flodau. Enillwyd y gystadleuaeth gosod blodau ar y thema ‘Cariad’, gan Mair Williams.

Cydymdeimlwyd â Megan Roberts ar farwolaeth Wyn, ei gwr.Diolchwyd i’r aelodau fu’n siarad a’r dysgwyr yn yr Ysgol Undydd. Bydd Meinir Pierce Jones yn wraig wadd yng nghyfarfod mis Mawrth.

Diolchodd y llywydd i Marian Jones ac i Kathleen Parry ac Eirlys Williams am baratoi paned.

Capel y Drindod

IAU, 9 Chwefror: 7yh, Cymdeithas Ddiwylliannol.Gwener, 10 Chwefror: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol.Sul, 12 Chwefror: 10yb, Oedfa yng ngofal y Parch Olwen Williams; Ysgolion Sul fel arfer; 5yh, Oedfa yng ngofal y Parch Geraint Hughes.Llun, 13 Chwefror: 6yh, Clwb y Plant.; 7.30yh, Cyfarfod Gweddi’r Ofalaeth.Mawrth, 14 Chwefror: 7yh, Aelwyd y Chwiorydd.Mercher, 15 Chwefror: 7yh, Clwb Ieuenctid.

Ala Road

MORNING worship at the English Presbyterian church, this coming Sunday, 12 February, will be led by the Rev Olwen Williams, Tudweiliog. The service starts at 11.15am and a warm welcome is extended to all.

St Peter’s

SUNDAY, 10.30am Eucharist/Offeren; Monday, 9.30am Celtic Morning (Prayer and Meditation); Tuesday, 10.30am Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd; Friday, 3.30pm Meditation, Blessed Sacrament and Benediction/Myfyrdod, Y Sacrament Bendigaid a Bendith; Saturday, 10am Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd. The church is open between 2pm and 3pm on Tuesdays and Fridays for the Food Bank.

Chwiorydd

YMWELODD aelodau Aelwyd yr Hwyr, Chwiorydd y Drindod â llyfrgell y dref, nos Fawrth, 31 Ionawr.

Cafwyd croeso mawr yno gan Nia Griffith, un o’r penaethiaid ac ‘roedd wedi dewis rhai o’r llyfrau Cymraeg diweddaraf gan Caryl Lewis, Lleucu Roberts, Guto Dafydd, Bet Jones a Gareth Lewis.

Mwynhaodd pawb y darlleniadau, gan nodi gallu arbennig Nia i roi’r stori drosodd a chymeriadu. I gloi’r noson cafwyd paned a thrafodaeth.

Catholic Masses in the parish

ST JOSEPH’s: Sunday 9am; Saturday, 6.30pm. Church of the Most Holy Redeemer, Porthmadog, Sunday, 11.30am.

Oedfaon

CAPEL Seion: 10yb Parch Pryderi Llwyd Jones, Cricieth.Capel Penlan: 5yh, Dewi Jones, Pwllheli.

Cymdeithas Ddiwylliannol

MEWN cyfarfod o Gymdeithas Ddiwylliannol y Drindod nos Wener, 27 Ionawr, cafwyd cwmni gwr lleol, sef William Ellis Jones, gynt o Fynytho, neu Wil Postman fel y gelwid ef gan amryw.

Yn ddifyr iawn soniodd am ei droeon trwstan a’r llu o gymeriadau diddorol a doniol y daeth i gysylltiad â hwy yn ystod ei 45 o flynyddoedd yn dosbarthu llythyrau a pharseli yn ardal Aberdaron a’r Rhiw. Croesawyd ef gan lywydd y noson, sef Christine Jones a diolchwyd am noson gartrefol, braf yn ei gwmni gan Ann Jones.

Dalier sylw - bydd cyfarfod nesaf y Gymdeithas heno, sef nos Iau, 9 Chwefror.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]