THE latest community news from Pwllheli
Aelwyd Chwiorydd
NOS Fawrth, 13 Mawrth cynhaliwyd cyfarfod olaf y tymor o Aelwyd yr Hwyr, sef y Cyfarfod Cenhadol yng Nghapel y Drindod.
Llywydd y noson oedd Jane Lloyd. Cydymdeimlwyd â Christine Jones oedd wedi colli ei chwaer. Cymerwyd y gwasanaeth dechreuol gan Eirlys Jones. Yna cyflwynodd Jane wr gwadd y noson, sef Andrew Settatree.
Er bod Andrew yn ein mysg ers rhai misoedd bellach, diddorol oedd cael ei gefndir, a sut y daeth i’w swydd bresennol. Bu’n sôn hefyd am y bwriad o gael helpu efo gwersi a gwasanaethau. Diolchwyd iddo gan Jane Lloyd.
Prynhawn Llun, 19 Mawrth, cynhaliwyd cyfarfod cenhadol Chwiorydd y Prynhawn, cyfarfod a oedd wedi ei ohirio o bythefnos yn ôl.
Y llywydd oedd Morfydd Roberts. Hi hefyd gymerodd y Defosiwn Dechreuol ar Dewi Sant.
Gofynnwyd am syniadau ar gyfer y trip a nosweithiau tymor nesaf. Cyflwynwyd gwraig wadd y prynhawn, sef Sara Roberts. Roedd hi wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil ar Ann Griffiths a’i emynau. Rhoddodd amlinelliad o fywyd Ann a mynd trwy rhai o’i emynau yn dangos ei gwybodaeth o’r Beibl.
Head shaving fund-raiser
FOLLOWING on from the recent successful shaving of his hair and eyebrows at the Mitre public house, Pwllheli’s Malci Jones is proud to say that he was able to raise a total of £450.60 for Marie Curie and £40 for Macmillan.
Malci is grateful to everybody who helped with the event, to Karen Rees for her expertise with her scissors, shaver and razor blade and to everybody who sponsored him or donated to the charities.
Capel y Drindod
Gwener, 13 Ebrill – 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol.
Sul, 15 Ebrill – 10yb a 5yh, Oedfaon yng ngofal y gweinidog; Ysgolion Sul fel arfer; 7yh, Oedfa’r ddwy Ofalaeth.
Llun, 16 Ebrill – 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh Seiat yr Ofalaeth.
Mawrth, 17 Ebrill – 7yh, Y Sied.
Mercher, 18 Ebrill – 7yh, clwb ieuenctid.
Capel Seion
FORE Sul, 15 Ebrill, am 10yb, Diacon Stephen Roe.
Capel Penlan
DDYDD Sul, 15 Ebrill am 5yh gwasanaeth dan ofal y gweinidog, y Parch Glenys Jones.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.