THE latest community news from Sarn
Sefydliad y Merched
Becws Aberdaron oedd lleoliad cyfarfod mis Chwefror. Cafwyd croeso cynnes yna gan Geraint a Gillian.
Aethpwyd ati i ddylunio torth â phawb yn rhoi ei farc unigryw ei hun arnynt er mwyn gwybod pwy oedd bia pwy dorth ar ôl eu crasu.
Cafwyd sgwrs wedyn gan Geraint, yn dweud hanes cychwyn y fenter ac adeiladu becws newydd to gwellt tra roedd Gillian wrthi yn brysur yn darparu paned ar ein cyfer.
Tros baned trafodwyd y llythyr misol a chroesawyd pedair aelod newydd sef Brenda Chidley Williams, Gwenan Griffith, Nerys Evans a Dilys Jones.
Cyfarfod nesaf ar 5 Mawrth yng Nghegin Grug i ddathlu Gwyl Ddewi am 7yh.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.