THE latest community news from Soar Y Mynydd

Gwasanaeth

CAFWYD gwasanaeth bendithiol iawn gan Beti Griffiths, Llanilar gyda’r Parch Nicholas Bee yn ei chymorthwyo y Sul diwethaf a diolch yn fawr iddynt am lanw bwlch ar ôl marwolaeth y Parch Dafydd Henri Edwards. Cydymdeimlir â’i briod a’r teulu ar eu colled enfawr.

Hyfryd oedd croesawu ffrindiau o ardaloedd Bronant a Lledrod i gyd-addoli a hyfryd oedd cael unawd gan Efan Williams.

Gwnaed y croesawu gan Mair Hughes, Alltddu a chwaraewyd yr allweddellau gan Neli Jones, Pontrhydfendigaid.

Disgwylir yr Athro Densil Morgan, Llanbedr Pont Steffan y Sul nesaf am 2yp. Croeso i bawb.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]