THE latest community news from Soar Y Mynydd

Gwasanaeth

CAWSOM gwasanaeth bendigedig y Sul diwethaf o dan ofal y Parch John Roberts, Aberystwyth.

Diolch yn fawr i bawb a ddaeth i gyd-addoli â ni o bell ac agos.

Gwnaed y croesawu gan Mair Hughes, Alltddu a chwaraewyd yr allweddellau gan Mair Richards, Llanddewi Brefi.

Disgwylir y Parch Judith Morris, Penrhyncoch i wasanaethu yn ein cwrdd Diolchgarwch y Sul nesaf am 2yp.

Hwn fydd ein hoedfa ddiwethaf am y flwyddyn.

Bydd y casgliad tuag at Apêl Cynhaeaf y Cymorth Cristnogol.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]