THE latest community news from Synod Inn
Merched y Wawr
NOS Iau, 14 Chwefror, cyflwynodd Elin Owens y gwestai am y noson, sef Graham Jones a’r criw o Feiciau Gwaed Cymru. Cafwyd cyflwyniad addysgiadol gan Graham drwy gyfrwng pwynt p?er a dysgodd aelodau Cangen y Bryniau lawer am y modd mae’r system yn gweithio.
Synwyd pawb fod y gwaith maent yn ei wneud yn hollol wirfoddol a bod Beiciau Gwaed Cymru yn dibynnu’n llwyr ar roddion y cyhoedd. Cafwyd cyfle i’r holl aelodau a oedd yn bresennol i gasglu o amgylch y beic modur ar gyfer llun, gydag Elin yn gyrru! Diolchodd Elin am noson arbennig a rhoddwyd nifer o roddion unigol i’r achos yn ogystal â rhodd o’r gangen.
Aethom ymlaen wedyn i drafod y gohebiaeth ac hefyd cydymdeimlo gydag Eirwen Brown ar golli ei thad. Roedd Elin a Joyce wedi rhoi gwobrau raffl a’r enillwyr lwcus oedd Nerys a Sian. I orffen y noson hwyliog, cafwyd paned a bisgedi wedi ei baratoi gan Joyce ac Elin, trefnwyr y noson.
Byddwn yn cwrdd nesa ar nos Iau, 14 Mawrth am 6.45yh yng Nghaffi Emlyn, Tanygroes i ddathlu G?yl Ddewi.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.