THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

CYNHALIWYD yr oedfa ddydd Sul diwethaf am 1.30yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu a rhannu’r cymun. Gwnaed y casgliad gan Mari a Carol Rees oedd wrth yr organ.

Gan fod tipyn o waith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar y capel a’r festri ar hyn o bryd, bydd cyngerdd yn cael ei gynnal yn y Neuadd Goffa ar nos Sadwrn, 24 Tachwedd yng nghwmni Bois y Gilfach; byddant yn defnyddio llawer o ddeunydd y diweddar Barch Jacob Davies yn ei rhaglen. Bydd caws a gwin yn cael eu gweini ar y noson hefyd. Mwy o wybodaeth i ddod maes o law am hyn.

Cynhelir yr oedfa ddydd Sul nesaf am 3yp ac yn ôl yr arfer fe fydd croeso cynnes i aelodau a ffrindiau’r achos.

Sioe Fawr

DAETH llwyddiant ysgubol i Keith Jones, Pantycetris yn Sioe Llanelwedd yr wythnos ddiwethaf, wrth iddo ennill y wobr gyntaf yn nosbarth iau adran y Gwartheg Byrgorn.

Cymdeithas yr Henoed

CYNHELIR trip a chinio Cymdeithas Henoed yr ardal ar ddydd Iau, 9 Awst, gan adael Tafarn Glanyrafon am 9.30yb. Eleni ymweliad â gogledd Cymru a chartref y bardd Hedd Wyn, Yr Ysgwrn, Trawsfynydd fydd yr arlwy, gan alw ym Machynlleth ar y ffordd.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]