THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHELIR yr oedfa ddydd Sul nesaf am 3yp yng nghwmni’r Parch Wyn Thomas.
Cynhelir ein gwasanaeth Ddiolchgarwch ar ddydd Sul, 30 Medi, am 1.30yp, gyda’r Parch Cen Llwyd yn ein harwain mewn gwasanaeth.
Gan fod tipyn o waith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar y capel â’r festri ar hyn o bryd, bydd noson o gaws, gwin a chân yn cael ei gynnal yn y Neuadd Goffa ar nos Sadwrn, 24 Tachwedd, yng nghwmni Bois y Gilfach. Byddant yn defnyddio llawer o ddeunydd y diweddar Barch Jacob Davies yn ei rhaglen.
Llywydd y noson fydd Meic Birtwistle, sydd â chysylltiadau teuluol agos â’r capel.
Canu Gwlad
NOS Sadwrn roedd y ddeuawd boblogaidd Dafydd a Lisa yn ôl yn diddanu yn Nhafarn Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan.
Roedd holl elw’r noson yn mynd tuag at Ymchwil Cancr.
Sioe
DDYDD Sadwrn cynhelir Sioe Gynnyrch a Hen Bethau Flynyddol ar gae Coed Fadre, trwy garedigrwydd Iwan Evans.
Digon o gystadlaethau i pawb a chyfle i weld hen beiriannau.
Miri Medi
NOS Sadwrn cynhaliwyd Miri Medi yn y neuadd.
Cyfle i gael pryd o fwyd a chymdeithasu ac i wrando ar adloniant arbennig gan Catrin Henbant a’r criw.
Cafwyd noson rhagorol yn llawn hwyl, bwyd neilltuol a chyfle i godi arian tuag at y neuadd.
Bore coffi
CYNHELIR bore coffi er budd gwaith Macmillan yn y neuadd goffa fore Gwener am 9.30yb tan 12yp.
Gwyddom am waith da yr elusen bwysig hon, ceisiwch gefnogi.
Barnu gwartheg
YN ddiweddar cynhaliwyd noson arbennig ar fferm Blaenglowon Fach, pan ddaeth aelodau o Glybiau Ffermwyr Ifanc yr ardal, ynghyd â chyfeillion a rhai oedd yn ymwneud â Sioe Llandysul at ei gilydd am noson i farnu gwartheg godro.
Yn ôl y beirniad Elwyn Davies, yr enillydd dan 26 oed oedd Bleddyn Davies a than 18 yr enillydd oedd Ieuan James.
Diolch i bawb oedd ynghlwm â threfniadau’r noson.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.