THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

CYNHALIWYD ein Cwrdd Ddiolchgarwch ddydd Sul diwethaf am 1.30yp, gyda’r Parch Cen Llwyd yn ein harwain mewn gwasanaeth, a chafwyd neges amserol a phwrpasol ar y thema ‘yr ardd.

Roedd croeso i bawb i’r oedfa neilltuol hwn yng nghwmni un o’n haelodau a hyfryd oedd gweld cynulleidfa luosog wedi troi allan.

Yn llywyddu oedd ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas a’r organyddes oedd Enfys Llwyd.

Yn ôl yr arfer roedd te a chacennau i bawb ar ôl y gwasanaeth.

Bydd noson o gaws, gwin a chân ar nos Sadwrn, 24 Tachwedd yng nghwmni Bois y Gilfach.

Llywydd y noson fydd Meic Birtwistle; mwy o wybodaeth i ddod.

Neuadd Goffa

OS am logi’r neuadd ar gyfer unrhyw ddigwyddiad, cysylltwch ag aelodau’r pwyllgor neu e-bostiwch [email protected] i drafod ymhellach, neu os hoffech gefnogi’r achos drwy ymuno â’r Clwb 100 (£6 y flwyddyn).

Bore coffi

CYNHALIWYD bore coffi er budd gwaith Macmillan yn y Neuadd Goffa fore Gwener ddiwethaf o 9.30yb tan 12yp.

Mae pawb yn gwybod am y gwaith da sy’n cael ei wneud gan yr elusen bwysig hon a hyfryd oedd gweld cymaint wedi troi allan i gefnogi â thipyn o arian wedi ei godi.

Adran Bentre

BYDD yr adran yn ail-ddechrau gyda sosial nos Iau am 6.30yh a byddwn yn trafod ac yn trefnu’r rhaglen ar y noson hon hefyd.

Eleni bydd yr adran yn cwrdd bob pythefnos.

Cymdeithas Undodaidd

DDYDD Sul cynhelir Cwrdd y Gymdeithas Undodaidd braidd yn wahanol i’r arfer, gan y byddwn yn nodi’r etholiad hanesyddol yn Hen Gapel Llwynrhydowen am 1.30yp.

Fel rhan o’i ymweliad â Chymru bydd y Parch Carie Johnsen o Augusta, Maine yn cael y cyfle i fod yn rhan o’r gwasanaeth i nodi Etholiad Cyffredinol hanesyddol 1868.

Ar y pryd, doedd yna ddim pleidlais gudd ac am y tro cyntaf gwnaeth Rhyddfrydwyr cyffredin guro’r landlordiaid Torïaidd mewn pleidlais agored. O ganlyniad bu yna erlid ar denantiaid ac ar gynulleidfa Capel Llwynrhydowen - un o’r digwyddiadau a arweiniodd at gyflwyno’r bleidlais gudd yn y diwedd.

Y Parch Wyn Thomas fydd yn arwain y gweithgareddau ac estynnir croeso cynnes i unrhyw un fod yn rhan o’r gwasanaeth unigryw hwn yn hanes Undodiaeth yng Nghymru.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]