CYNHALIWYD Eisteddfod Gadeiriol Capel Bryngwenith, Henllan, Llandysul, dydd Gwener 25ain Ebrill.
Arweinyddion y dydd oedd Dafydd James, Bronyglyn, Geraint James Arwerthwr a’r Parchedig Carys Ann.
Cadeirydd yr Eisteddfod oedd Jeff Jones, Tanygroes (gŵr y diweddar Ann Felin).
Y Beirniaid Cerdd – Rhiannon Lewis, Cwmann a’r Beirniad Llefaru oedd y Prifardd Tudur Dylan.
Cyfeilydd – Lyn James, Adpar.
Yn cadw cyfrif o’r canlyniadau ā’r gwobrau oedd Jillian Jones, Glenys ac Elin Williams.
Yn cynorthwyo yn paratoi a gweini y lluniaeth yn y Festri oedd Morfydd Davies, Llinos James, Elsie Evans, Rhiannon Price, Elonwy James a rhai gwragedd yn ogystal.
Yn cynorthwyo yn y drws oedd Morfydd Davies, Huw a John Adams.
CANLYNIADAU EISTEDDFOD GADEIRIOL CAPEL BRYNGWENITH am 2025.
UNAWD BLWYDDYN 2 AC IAU AGORED: 1af Elan Rhun Phillips, Caerfyrddin; 2il Martha Jones, Llanfihangel ar Arth; Anni Davies, Castellnewydd Emlyn
LLEFARU BLWYDDYN 2 AC IAU AGORED: 1af Annie Davies, Castellnewydd Emlyn; 2il Elan Rhun Phillips; Caerfyrddin; 3ydd Martha Jones, Llanfihangel ar Arth; 4ydd Endaf Ifor Lloyd, Talgarreg
UNAWD BLWYDDYN 3-4 AGORED: 1af Neli Evans, Talgarreg; 2il Marged Evans, Penrhiw-pāl; 3ydd Non Thomas, Talgarreg
Tynnu llun ‘Fy hoff anifail’ oed cynradd: 1af Marged Evans, Penrhiw-pāl; 2il Gruffudd Davies, Capel y Wig ac yn ail Tudur Davies, Capel y Wig
LLEFARU BLWYDDYN 3-4 AGORED: 1af Marged Evans, Penrhiw-pāl; 2il Non Thomas, Talgarreg; 3ydd Neli Evans, Talgarreg.
UNAWD BLWYDDYN 5-6 AGORED: 1af Cadi Aur, Penuwch; 2il Prys Rowcliffe, Talgarreg; 3ydd Megan Rowcliffe, Talgarreg
LLEFARU BLWYDDYN 5-6 AGORED: 1af Sara Evans, Talgarreg; 2il Grug Rees, Talgarreg; 2il hefyd Cadi Aur, Penuwch; ac ail hefyd Prys Rowcliffe
UNAWD CYFYNGEDIG BLWYDDYN 2 ac IAU: 1af Endaf Ifor Lloyd, Talgarreg
LLEFARU CYFYNGEDIG BLWYDDYN 2 ac IAU: 1af Rheon Evans, Penrhiw-pāl; 2il Endaf Ifor Lloyd, Talgarreg
UNAWD CYFYNGEDIG BLWYDDYN 3-6: 1af Neli Evans, Talgarreg; 2il Non Thomas, Talgarreg; 3ydd Marged Evans, Penrhiw-pāl.
LLEFARU CYFYNGEDIG BLWYDDYN 3-6: 1af Marged Evans, Penrhiw-pāl; 2il Neli Evans, Talgarreg; 3ydd Non Thomas, Talgarreg
PARTI UNSAIN DAN 16eg oed: 1af Criw Ysgol Sul, Pisgah, Talgarreg/ criw Ysgol Talgarreg; 2il Criw Ysgol Sul Glynarthen
PARTI CYD ADRODD / LLEFARU DAN 16eg oed:1af Criw Ysgol Sul Pisgah, Talgarreg/ criw Ysgol Talgarreg
UNAWD BLWYDDYN 7- 11: 1af Awen Davies, Dihewyd; 2il Rheon Davies, Dihewyd
LLEFARU BLWYDDYN 7-11:1af Awen Davies, Dihewyd. 2il Rheon Davies, Dihewyd
DARLLENIAD O’R YSGRYTHUR – OED CYNRADD 1af Sara Evans, Talgarreg; 2il Betsan Mai Lloyd, Talgarreg
DARLLENIAD O’R YSGRYTHUR – OED UWCHRADD: 1af Awen Davies, Dihewyd; 2il Rheon Davies, Dihewyd
Unawd AR UNRHYW OFFERYN CERDD – OED CYNRADD: 1af Neli Evans, Talgarreg. 2il Non Thomas, Talgarreg
CȂN WERIN DAN 16eg oed, AGORED: 1af Awen Davies, Dihewyd. 2il Rheon Davies, Dihewyd
UNAWD CERDD DANT DAN 16eg OED, AGORED: 1af Neli Evans, Talgarreg; 2il Non Thomas, Talgarreg. 3ydd Cadi Aur, Penuwch
DYSGWYR OEDOLION TESTUN – PAM FY MOD EISIAU DYSGU CYMRAEG. (GWERTHFAWROGIR FOD 8 WEDI CYSTADLU): 1af Gemma Cohen, Coed-y-bryn. (Ymgeiswyr o dan ofal Dosbarthiadau Cymraeg dan ofal Llinos Evans, Rhoslwyn, Coed-y-bryn.
TYNNU LLUN – OED UWCHRADD – ‘Fy hoff gar’: 1af Sara Davies, Penrhiw-pāl; 2il Elin Davies, Penrhiw-pāl
ENGLYN AR Y TESTUN ‘BANER’: 1af Eifion Daniels, Blaenffos
LLUNIO DIHAREB NEWYDD: 1af Megan Richards, Aberaeron
CANU EMYN DAN 18 OED: 1af Neli Evans, Talgarreg, 2il Cadi Aur, Penuwch ac yn 2il oedd Non Thomas, Talgarreg
LIMRIG YN CYNNWYS Y LLINELL ‘EFALLAI EICH BOD CHI YN GWYBOD’: 1af Eifion Daniels, Boncath
DEUAWD DAN 18oed: 1af Neli Evans, Talgarreg a Non Thomas, Talgarreg
HER ADRODDIAD: 1af Gwendoline Evans, Synod Inn; 2il Maria Evans, Rhydargaeau
CANU EMYN DROS 50 oed: 1af Daniel Rees, Drefach Felindre
CȂN DDIGRI- TESTUN ‘MARCHNAD’: 1af Megan Richards, Aberaeron
BRAWDDEG - TESTUN O’R GAIR ‘C.A.R.I.A.D: 1af Megan Richards, Aberaeron
HER UNAWD GYMRAEG – AGORED: 1af Gerwyn Rees, Porthyrhyd
Enillydd y Gadair – Cerdd ar y testun – ‘Pentref’. Cadair fechan yn rhoddedig gan Eurig ac Elonwy James, Adpar. Y buddugwr oedd Iwan Thomas, Ciliau Aeron, sydd yn aelod o Dĭm Talwrn y Beirdd Tafarn Y Vale.
Canwyd cān y cadeirio gan Glenys George, Castellnewydd Emlyn.
Gwerthfawrogir pob cymorth a charedigrwydd gan unigolion, busnesau lleol yn ardal a thref Castellnewydd Emlyn, Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, Cyngor Cymuned Llandyfriog, Cyngor Sir Ceredigion.
Bydd rhestr y cyfraniadau caredig am 2025 yn Cyntedd y Capel ar ddydd yr Eisteddfod yn 2026.