THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

Cynhaliwyd Noson Caws a Gwin yng nghwmni Bois y Gilfach yn y Neuadd Goffa.

Llywydd y noson oedd Meic Birtwistle o Drefenter, person sydd â’i wreiddiau yn ddwfn iawn yn hanes y capel.

Roedd y gyngerdd yn un arbennig, gan fod y bechgyn yn perfformio eu caneuon arferol mewn un hanner ac yn cyflwyno fersiwn fyrrach o Noson Cofio’r Diweddar Barchedig Jacob Davies a gafwyd ei berfformio gan y bois yn Theatr Felinfach llynedd mewn hanner arall. Cadeirydd y noson oedd y Parch Wyn Thomas.

Roedd digon o gaws, gwin, pate a chracers i bawb ynghyd â phaned a mincepie hanner amser. Noson i’w chofio.

Cynhelir yr oedfa dydd Sul nesaf am 10.30yb, pryd y bydd ein gweinidog y Parch Wyn Thomas yn cael y cyfle i weini’r cymun am y tro diwethaf eleni. Yn ôl yr arfer fe estynnir croeso cynnes iawn i unrhyw un i’r oedfa olaf y flwyddyn hwn yng nghwmni ein gilydd.

Ysgol gynradd

Nos Wener, cynhelir cyngerdd Nadolig blynyddol yr ysgol leol yn y Neuadd Goffa ac yn ôl yr arfer fe fydd croeso cynnes iawn i bawb fynd i wrando ar stori’r Nadolig trwy gân a cherdd.

Cymdeithas Undodaidd

Bore Sadwrn am 11yb yng Nghapel Llwynrhydowen, bydd gwahoddiad cynnes i bawb sydd yn gysylltiedig â chapeli ardal y Smotyn Du i ddod at ei gilydd, er mwyn cael pacio anrhegion Nadolig i’r anghenus.

Gofynnir yn garedig i bobl ddod ag anrhegion i blant ac i bobl h?n, megis teganau, menyg neu sgarfs, eitemau ymolchi ac yn y blaen. Hefyd gofynnir am fwydydd sych, megis caniau, pasta, reis ac ati. Bydd yr eitemau yn cael eu rhoi mewn bocsys esgidiau ac yn cael eu cyflwyno i Fanc Bwyd Llandysul, Canolfan Digartref yn Abertawe a Chymorth i Ferched Aberteifi.

Canu gwlad

Nos Sadwrn croesawir Tudur Wyn yn ôl i Dafarn Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan.

Cymeriad llawen, sydd yn canu ac yn dweud ambell i jôc yw Tudur, felly am noson dda o adloniant hwylus, dyma’r lle i fod. Ar y nos Sadwrn canlynol fe fydd y ddeuawd Daf a Lisa yn ôl yn canu yno. Dyma’r ddeuawd sydd yn canu mor debyg i Tony ac Aloma ac sydd yn werth eu clywed.

Cylch Meithrin

Nos Fercher, 5 Rhagfyr am 7.30yh cynhelir noson o gaws a gwin ac ocsiwn yn Nhafarn Glanyrafon, pryd y bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at y Cylch Meithrin lleol.

Mae yno eitemau hyfryd iawn ar gael ar yr ocsiwn, felly cyfle i brynu rhai anrhegion Nadoligaidd efallai?

Bu plant ac athrawon y Cylch Meithrin yn ddiweddar yn trefnu tuag at eu diwrnod Taith Tractorau. Codwyd arian anrhydeddus tuag at y Cylch Meithrin ac Elusen Alzheimers. Hoffai’r pwyllgor ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth eleni eto.

Adran yr Urdd

Bu plant a phobl ifanc yr adran yn cystadlu yng Ngharnifalwn yr Urdd yn Theatr Felinfach yn ddiweddar gyda phawb wedi mwynhau’r cystadlu.

Y beirniaid oedd Iwan a Janice Thomas a’r arweinydd oedd Eifion Morgan. Cafwyd noson arbennig iawn nghwmni’r ieuenctid.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]