THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
DDYDD Sul diwethaf daeth y llywydd cenedlaethol yr Undodiaid, Joan Cook o Gaeredin ar ymweliad â Chymru ac i ardal y Smotyn Du, i Gapel y Fadfa i fod yn bresennol mewn oedfa yno am 1.30yp yng nghwmni’r gweinidog, y Parch Wyn Thomas.
Hyfryd oedd gweld rhai wedi dod o gapeli eraill, ynghyd ag aelodau Capel y Fadfa. Llywydd y prynhawn oedd y Parch Wyn Thomas, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch Alun Wyn Dafis, Cen Llwyd, Eric Jones a Melda Grantham.
Daeth y llywydd a chyfarchion oddi wrth y Gymanfa Gyffredinol a chyflwynodd Morwen Thomas rodd i Joan ar ran Cymdeithas Undodaidd Deheudir Cymru. Wrth yr organ oedd Enfys Llwyd. Yn dilyn y gwasanaeth aeth pawb i’r festri i fwynhau’r te Cymreig oedd merched y capel wedi ei baratoi.
Cawl a chân
NOS Sadwrn diwethaf cynhaliwyd noson o gawl a chân yn y Neuadd Goffa am 6.30yh, dan nawdd Pwyllgor y Neuadd. Mae’r digwyddiad hyn yn cael ei drefnu ers blynyddoedd bellach ac yn un o ddigwyddiadau mwyaf pleserus y flwyddyn i bobl yr ardal. Roedd y cawl wedi cael ei wneud gan aelodau o bwyllgor y neuadd, a blasus iawn oedd e hefyd.
Plant bach yr Ysgol Feithrin, ynghyd â phlant yr ysgol leol oedd yn diddanu’r gynulleidfa luosog a oedd wedi dod i gefnogi. Cafwyd cyngerdd amrywiol, â’r plant i gyd yn gwybod eu gwaith ar lafar a chân. Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi.
G?yl Eirwyn Pontshan
BYDD G?yl Eirwyn Pontshan yn cael ei chynnal ar 18 i 23 Mawrth - g?yl er cof am y digrifwr a’r diddanwr Eirwyn Jones o Dalgarreg. Bydd yr ?yl yn dechrau yn Neuadd Ffostrasol ar nos Lun, 18 Mawrth am 7.30yh gyda darlith gan Lyn Ebenezer.
Nos Wener, 22 Mawrth am 7yh yn y Neuadd Goffa bydd cyfraniad plant ysgol gynradd y pentref, ynghyd â Caio ac Ioan Evans a Ryland Teifi. Dydd Sadwrn am 2yp bydd taith gerdded o gwmpas bro Eirwyn, dechrau o’r neuadd dan arweiniad Cen Llwyd. I gloi’r ?yl ar y nos Sadwrn, bydd noson gomedi gyda chyfuniad o ddoniau lleol a doniau cenedlaethol.
Bore coffi
FORE Sadwrn o 10.30yb i 12.30yp cynhelir bore coffi gyda stondinau yn Festri Capel y Fadfa ar y cyd â Chapeli Bröydd Marles a Gwenog sydd dan ofalaeth y Parch Wyn Thomas, i godi arian tuag at yr elusen Alzheimer’s. Tâl mynediad yn £2 a bydd modd cael paned a bisgedi a chyfle i gymdeithasu. Bydd stondinau cacennau, poteli a thwba bran a chroesawir eitemau i’r gwahanol stondinau.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]



.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.