THE latest community news from Talgarreg.
Capel y Fadfa
DDYDD Sul diwethaf cynhaliwyd Cymanfa Bwnc ar gyfer aelodau Capeli Bröydd Marles, sef Capel y Fadfa, Llwynrhydowen a Pantydefaid yng Nghapel y Graig am 2.30yp. Y Parch Wyn Thomas oedd yng ngofal y trefniadau. Bu rhai o’r plant yn sôn am y straeon o’r Beibl yr oeddent wedi’u dysgu erbyn arholiad yr Ysgolion Sul, a Fflur yn cyhoeddi emyn. Gan ei fod yn Sul y Mamau, bu’r oedolion yn trafod yr achlysuron pan ddewn ar draws Mair, mam Iesu yn yr efengylau, gan feddwl am ei theimladau hithau, a’i pherthynas gydag Iesu. I gloi’r digwyddiad, cafwyd digonedd o de a chacennau yn y festri. Ddydd Sul nesaf cynhelir Cwrdd Gwanwyn y Gymdeithas Undodaidd yng Nghapel Llwynrhydowen am 1.30yp. Gobeithir cael cwmni aelodau holl gapeli’r Smotyn Du i’r oedfa brynhawnol hyn a fydd yng ngofal y Parch Wyn Thomas. Bydd pwyllgor gwaith y Gymdeithas yn dilyn yn syth ar ôl y cwrdd blynyddol hwnOherwydd digwyddiadau eraill ar y Suliau canlynol, ni fydd oedfa yng Ng-hapel y Fadfa nawr tan 9 Ebrill, pryd y cynhelir oedfa gymun am 3yp.
Dathlu 30 mlynedd
YN ddiweddar bu’r Parch Carys Ann yn dathlu 30 mlynedd yn gweinidogaethu Capeli Glynarthen, Hawen a Bryngwenyth. Erbyn hyn mae Capel Brynmoreia dan ei gofal ers saith mlynedd a Chapeli Pisgah, Y Wig a Phantycrugiau ers 25 mlynedd. Bu oedfa undebol arbennig i ddathlu’r achlysur yng Nghapel Glynarthen. Cafodd y gweinidog gyfle drwy’r oedfa, oedd yn weledol ar y sgrin trwy bwynt pwer i edrych yn nôl ar y 30 mlynedd a’i thaith hyd yn hyn yn y weinidogaeth.Roedd gwragedd y capel wedi paratoi te arbennig yn y festri yn dilyn yr oedfa.Pob dymuniad da iddi hi am flynyddoedd maith eto.




.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.