THE latest community news from Talgarreg.

Capel y Fadf

A HITHAU’N yn Sul y Blodau ddydd Sul diwethaf, hyfryd oedd gweld mynwent y capel wedi ei harddu gyda blodau o bob lliw a llun ar gyfer yr oedfa a gynhaliwyd am 3yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas, yn rhannu’r cymun unwaith eto.Braf oedd gweld cynulleidfa luosog wedi troi fewn i’r oedfa arbennig hon.Oherwydd digwyddiadau eraill o fewn yr enwad, ni fydd oedfa yn y capel tan 14 Mai am 1.30yp.

Dwy ddrama

CYNHALIWYD dwy ddrama gan Gw-mni Llandudoch nos Wener ddiwethaf yn y Neuadd Goffa dan nawdd Capel Pisgah.Erbyn hyn mae pawb yn gwybod am lwyddiant y cwmni llewyrchus hwn, gan fod yr actorion yn hen gyfarwydd a pherfformio ar lwyfan y neuadd yn Nhalgarreg.Ni chafodd neb eu siomi gyda’r criw hyn yn perfformio unwaith eto, gwledd o noson.

Taith gerdded

BYDD taith gerdded flynyddol y capel ar brynhawn Sadwrn, 22 Ebrill.Pawb i gwrdd ym maes parcio’r capel am 1yp. Cyng Gareth Lloyd fydd yn arwain y daith eleni. Croeso cynnes i bawb.

Gwyl y pentref

YN dilyn cynnal cyfarfod i drafod a threfnu Gwyl Talgarreg 2017 nos Fercher diwethaf yn neuadd y pentref, penderfynwyd cynnal yr wyl eleni ar nos Wener, 30 Mehefin, gyda helfa Drysor, â’r carnifal a’r mabolgampau ar ddydd Sadwrn, 1 Gorffennaf.Mwy o fanylion i ddilyn.

Cwis Pasg

CYNHELIR Cwis Pasg yn Nhafarn Glanyrafon ar nos Iau, 13 Ebrill, am 7.30yh.Bydd gwobr o £20 i’r tîm buddugol a bydd modd cael hyd at bump mewn tîm. Codir tâl mynediad o £2 i oedolion a £1 blant.Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Gylch Meithrin y pentref.

Noson gymdeithasol

CYNHELIR noson yng nghwmni Bleddyn a Rhiannon, Blaenglowon Fawr, ar nos Fawrth, 18 Ebrill, am 7.30yh yn y neuadd.Sgwrsio bydd y ddau am eu teithiau dramor – mae’n siwr y bydd storïau difyr a dwys i’w glywed gan y ddau.Mae croeso cynnes yn cael ei estyn i bawb i’r noson arbennig hon yng nghwmni dau o bobl ifanc yr ardal.