THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

CAFWYD oedfa’r Sul diwethaf am 1.30yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn rhannu’r cymun. Yr organyddes oedd Siwsan Davies.

Ddydd Sul nesaf cynhelir Cwrdd Undebol i aelodau Capeli Bröydd Marles a Gwenog yn Hen Gapel Llwynrhydowen am 2yp dan ofal ein gweinidog unwaith eto, pryd y gweinir mefus a hufen ar ddiwedd yr oedfa.

Neuadd Goffa

YDYCH chi wedi cael eich tocynnau ar gyfer nos Sadwrn, 9 Medi am 6.30yh, pryd y cynhelir noson arbennig yn y Neuadd Goffa dan yr enw ‘Miri Medi’?

Bydd ras peli i ddechrau ac i ddilyn cynhelir pryd dau gwrs ac adloniant gan Mari Mathias.

Hyn i gyd am £10 i oedolion, £5 i blant ysgolion uwchradd a £2 i blant ysgolion cynradd.

Noson o hwyl i’r teulu ac i godi arian tuag at gynnal a chadw’r neuadd. Os am docynnau cysylltwch ag aelodau’r pwyllgor.

Gwyl Ysgolion Sul

DIWRNOD i’w fwynhau lawr yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan fydd ar ddydd Sul, 10 Medi.

Dewch yn llu i gefnogi pobl ifanc yr enwad.

Bydd yna Wyl Fwyd hefyd yn Sain Ffagan yn ystod y dydd, felly rhywbeth at ddant pawb.

Croeso cynnes i blant o bob oedran ac i oedolion!

Archebwch eich lle ar y bws nawr drwy gysylltu gyda’r Parch Wyn Thomas, gan y bydd y gweinidog yn cynnal gwasanaeth yn Hen Gapel Undodaidd Penrhiw yn ystod y prynhawn.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]