THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

DDYDD Sul diwethaf, cynhaliwyd oedfa undebol yn y capel am 10.30yb yng nghwmni’r Parch Eric Jones, Aberdâr.

Roedd yn hyfryd cael clywed mae ym mhulpud y capel hwn y gwnaeth ef roi ei bregeth gyntaf, sawl blwyddyn yn ôl bellach.

Cafwyd neges ragorol, un oedd yn gwneud i ni feddwl yn ddwys am ddangos arweiniad a bod yn groesawgar i bawb, pwy bynnag ydynt.

Fe gofiodd am ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas.

Roedd yn dda gweld cymaint wedi dod ynghyd unwaith eto ar fore mor aeafol.

Wrth yr organ oedd Siwsan Davies.

Gwnaed y diolchiadau gan Megan a chofiodd am Johnny Jones a Dai Griffiths, gan fod y ddau wedi bod yn yr ysbyty, gan gydymdeimlo â theulu’r Glyn yn dilyn marwolaeth perthynas agos iddynt yn ddiweddar.

Cynhelir gwasanaeth undebol ddydd Sul nesaf am 10.30yb yng Nghapel Pantydefaid, gydag Elaine Davies a Gethin Richards â gofal yr oedfa.

Yn ôl yr arfer gobeithir i gael presenoldeb aelodau capeli Bröydd Marles a Gwenog yno.

Bydd ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gobeithio bod nôl ar 3 Rhagfyr ac yn dilyn gwasanaethau fel maent ar daflen y gwasanaethau, gan gychwyn yng Nghapel y Fadfa am 10.30yb.

Cynhelir pwyllgor yr eisteddfod yn syth ar ôl y gwasanaeth.

Carolau

NOS Sul, cynhelir Cymanfa Garolau yng Nghapel y Fadfa am 7yh.

Llywydd y noson: Gildas Evans, Cefn Mabws; arweinydd: Manon Richards; organydd: Martin Griffiths; artistiaid: Côr Tregroes, sydd newydd ddod yn ôl o daith yn yr Iseldiroedd, yng nghwmni’r canwr Kees Huysmans; hefyd yn diddanu bydd Siôn Wyn o Penrhyncoch.

Mynediad drwy raglen sydd yn £3 ac ar gael gan aelodau’r capel, gyda holl elw’r noson yn mynd tuag at y capel.

Yn dilyn y canu, bydd paned a mins pei yn y Festri ac estynnir croeso cynnes i bawb i ymuno gyda’r aelodau yno.

Canu Gwlad

NOS Sadwrn diwethaf, bu’r canwr a’r digrifwr Clive Edwards yn diddanu yng Ngwesty Glanyrafon, ar wahoddiad Hefin a Megan.

Roedd hon yn noson hwylus yn ôl yr arfer.

Nos Sadwrn bydd Tudur Wyn yn diddanu, bydd hon eto’n noson llawn adloniant, gyda’r elw’n mynd tuag at Ymchwil Cancr.

Codi Arian

BYDD gwerthiant partiau beiciau modur elusennol yn cael ei gynnal yn Nhafarn Bach ddydd Sadwrn o 1yp ymlaen.

Prynhawn gwych i unrhyw un brwdfrydig sydd â beic modur i brynu neu werthu rhannau sbâr sydd eu hangen ar gyfer yr adferiadau hynny neu i gadw eu beiciau i redeg.

Bydd hyd at 14 o fyrddau ar gael am £5 y bwrdd. Bydd yr holl arian yn mynd i Feiciau Gwaed Cymru.

Ffoniwch 01545 590818 am fanylion neu i gadw bwrdd.

Adran y Pentre

NOS Iau bydd aelodau’r Adran yn cymryd rhan yng Ngharnifalwn yr Urdd yn Theatr Felinfach, dymunir yn dda iddynt ar y noson.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]