THE latest community news from Talgarreg
Capel Y Fadfa
BYDD ein gweinidog y Parch Wyn Thomas nôl gyda ni bore Sul nesaf yn cynnal yr oedfa am 10.30yb ac fe fydd yn cael cyfle i rannu’r cymun am y tro olaf am eleni.
Bydd pwyllgor yr eisteddfod yn dilyn yn syth ar ôl y gwasanaeth.
Carolau
NOS Sul diwethaf, cynhaliwyd Cymanfa Garolau yng Nghapel y Fadfa am 7yh.
Llywydd y noson oedd Gildas Evans, Cefn Mabws. Yr arweinydd oedd Manon Richards a’r organydd oedd Martin Griffiths. Yr artistiaid oedd Côr Tregroes dan arweiniad Martin Griffiths. Mae’r côr newydd ddod yn ôl o daith i’r Iseldiroedd yng nghwmni’r canwr Kees Huysmans. Hefyd yn diddanu roedd Siôn Wyn o Benrhyncoch.
Holl elw’r noson yn mynd tuag at gynnal a chadw’r capel.
Ysgol Talgarreg Yn 140
MAE Ysgol Talgarreg yn dathlu ei phenblwydd eleni yn 140 oed.
Cynhelir dwy gyngerdd yn neuadd y pentref i ddathlu’r achlysur nos Iau a nos Wener. Bydd y gyngerdd yn dechrau’n brydlon am 7yh.
Noson Caws A Gwin
CYNHELIR noson gymdeithasol i godi arian ar gyfer Cylch Meithrin a Ti a Fi y pentref ar nos Fercher, 6 Rhagfyr, yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]



-Andrew-White-(-Director-of-The-National-Lottery-Heritage-Fund-Wal.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.