THE latest community news from Talgarreg
Capel Pisgah
BU aelodau a ffrindiau’r capel ar eu taith gerdded ddirgel flynyddol ddydd Sadwrn diwethaf.
Cymanfa Ganu
DDYDD Sul diwethaf cynhaliwyd Cymanfa Ganu Undodiaid Ceredigion yng Nghapel Alltyblaca.
Trefnydd y dydd oedd y gweinidog, y Parch Cen Llwyd.
Cafodd rhyw 30 o blant ac ieuenctid yr enwad gyfle i ddangos eu doniau yng nghyfarfod y prynhawn â phawb yn gwneud eu gwaith gyda graen.
Arweinydd gwadd oedd Catrin Evans, Henbant a’r organyddes oedd Eirian Jones. Llywydd y prynhawn oedd Rowena Davies-Franklin o Gapel Pantydefaid a chafwyd ganddi araith bwrpasol a rhodd hael tuag at yr achos.
Gan nad oes festri yng Nghapel Alltyblaca i Festri Gapel y Groes aeth pawb i gael te rhwng y ddau gyfarfod.
Roedd y capel yn weddol lawn yn oedfa’r hwyr. Margaret Jones o Gapel Brondeifi oedd llywydd yr hwyr a chafwyd ganddi hithau hefyd araith bwrpasol a rhodd hael. Gwnaed y diolchiadau gan y Parch Cen Llwyd.
Cwrdd y Gwanwyn
DDYDD Sul nesaf erbyn 1.30yp bydd Undodiaid Ceredigion yn mynd i Gapel Brondeifi i Gwrdd y Gwanwyn, yng ngofal y Parch Alun Wyn Dafis.
Wedi’r cwrdd cynhelir pwyllgor gwaith y gymdeithas, a hwn fydd y pwyllgor olaf i Nans Davies fod yn llywydd arno.
Ar ddiwedd y pwyllgor bydd Nans yn trosglwyddo’r gadwyn ymlaen i Morwen Thomas. I ddilyn bydd te yn cael ei weini i bawb yn y festri.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.