THE latest community news from Tregaron

Hoelion Wyth cangen

Cors Caron

CYNHALIWYD cyfarfod cyntaf y tymor newydd ar 28 Medi, yng Ngwesty’r Talbot.

Daeth 16 ynghyd, a chyda chwe ymddiheuriad, mae’n argoeli’n addawol i’r Hoelion am y tymor.

Croesawyd dau aelod newydd i’n plith, sef Dafydd Morse a Dafydd Iolo Davies - buasai’n braf gweld rhagor yn ymuno eto.

Roedd hi’n hyfryd hefyd gweld nifer o aelodau nad oedd wedi mwynhau’r iechyd gorau’n ystod y misoedd diwethaf nôl yn ein plith.

‘Brethyn Cartref’ oedd thema’r noson agoriadol, sef noson gymdeithasol ymhlith yr aelodau.

Er mwyn cadw trefn ar y cwmni afieithus gwahoddwyd y diddanwr adnabyddus i’r genedl gyfan, Ifan Gruffudd i arwain y noson ac roedd ei bresenoldeb ef a’i ddawn naturiol ynghyd a’i hiwmor iach yn sicrhau llwyddiant o’r funud gyntaf.

Cafodd yr aelodau gyfle yn eu tro i adrodd stori arswyd, dweud jôc/stori am blant neu’r byd amaethyddol, meddygol neu eisteddfodol, rhoi pennawd i gart?n a chwblhau limrig. Roedd y limrig a osodwyd yn amserol tu hwnt gan fod y cyhoeddiad wedi ei gadarnhau bod eisteddfod 2020 yn dod i Dregaron.

Cafwyd ymron i 30 o atebion gwych, a llwyddodd Ifan yn ei ddoethineb i rannu’r wobr gyntaf rhwng pob un!!! Yr un oedd canlyniad pennawd y cart?n hefyd - pawb yn llawn deilyngu’r wobr!

Parhaodd y jôcs a’r straeon am dros awr a hanner yn ddi-dor, cyn gorfod rhoi terfyn ar y noson. Roedd digon o ddeunydd ar ôl i gynnal noson arall yn rhwydd. ‘Melys moes mwy’ oedd yr ymateb ar ddiwedd noson agoriadol gofiadwy, a chais i gynnal noson gyffelyb eto yn y dyfodol.

Ar ddechrau’r noson roedd Lyn Ebenezer wedi cael ei longyfarch ar gyhoeddi ei ganfed llyfr. Barn y rhai’n bresennol oedd bod ganddo bellach ddigon o ddeunydd i gyhoeddi’r canfed ac un!

Y mis nesaf byddwn yn croesawu Tegwyn Jones atom a hynny ar 26 Hydref. Dalier sylw - cynhelir y cyfarfod yng Nghlwb Rygbi Tregaron. Bydd y cymdeithasu’n cychwyn am 7yh, gan estyn croeso i’n g?r gwadd am 8yh. Croeso cynnes i aelodau newydd.

Clwb cerdded/Walking club

THE next walk is scheduled for 13 October and has been organised by Gwen/Dafydd.

The Sir Chris Bonington Trail, Pumlumon Fawr from Eisteddfa Gurig, is sponsored by Tynrhyd Retreat Devil’s Bridge and Y Talbot, Tregaron.

You’d probably not consider Pumlumon Fawr as a honeymoon destination but it was here Sir Chris Bonington Spent the first night of his honeymoon in 1962.

Sir Chris is one of the world’s most accomplished mountaineers and it’s wonderful to receive his support for this trail.

The journey to the summit is a short but spectacular hike, passing old mining works and then crossing open moorland to the 2,468ft summit, the highest in the Cambrian Mountains.

They might even pass the site of a crashed and ghostly looking WWII bomber.

The walk is to last approximately three-and-a-half hours and is graded a hard to moderate walk over a distance of five miles, with an ascent of 340m/1,111ft. The maximum number than can attend this walk is 25, so to reserve your place phone Dafydd 07748 675798. After the walk the club will return to the Talbot Hotel for bar meals. Walkers to pay for bar meals themselves.

To become a member of Clwb Cerdded Tregaron Walking Club call Dafydd, the secretary, on 01974 298150.

Bowling club

AN evening in the company of ‘Parti Cantre’r Gwaelod’, is being held on Saturday, 13 October at 7.30pm.

Tickets are available at the Medical Hall.

Donation towards local charity.

A warm welcome to all.

First whist drive of the season is on Saturday, 20 October at 8pm.

Capel Bwlchgwynt

CYNHELIR oedfa bore Sul, 14 Hydref, am 10yb dan ofal Gareth Jones.

Cwrdd Diolchgarwch

BYDD Cwrdd Diolchgarwch Bwlchgwynt dydd Iau, 11 Hydref, oedfa’r prynhawn am 2yp a 6.30yh.

Y pregethwr gwadd fydd y Parch J E Wynne Davies, Aberystwyth.

Cymdeithas Y Chwiorydd

CYNHELIR swper cynhaeaf yn y festri nos Iau, 18 Hydref, am 7yh o’r gloch yng nghwmni Beti Griffiths.

English Methodist Church

THE service on Sunday, 14 October, will be held in the memorial hall, beginning at 2.30pm and led by Bet Holmes.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]