THE latest community news from Tregaron
English Methodist Church
The service on Sunday, 18 November will be held in the Pantyfedwen hall, Pontrhydfendigaid, led by Rev Marty Presdee, starting at 2.30pm.
Capel Bwlchgwynt
Cynhelir Oedfa Deuluol dydd Sul, 18 Tachwedd, am 10yb dan ofal y Parch Carwyn Arthur.
Cynhelir Ffair Nadolig Bwlchgwynt ar ddydd Sadwrn, 24 Tachwedd am 2yp yn y Neuadd Goffa.
Y Gymdeithas
Croesawyd pawb i’r Gymdeithas ar nos Fawrth, 6 Tachwedd gan Ifan Gruffydd, llywydd y nos.
Dechreuwyd trwy ganu Cofia’n gwlad Benllywydd Tirion gydag Alice Jones yn cyfeilio.
Aeth Ifan ymlaen i groesawu a chyflwyno’r g?r gwadd, sef John Watkin o Ffair Rhos a chafwyd noson ddiddorol iawn yn ei gwmni.
Mae’n enw cyfarwydd iawn ym myd y cyfryngau ac wedi bod yn gweithio gyda’r BBC a HTV Cymru.
Aeth ymlaen i reoli nifer o gwmnïau cynhyrchu, a bu am gyfnod yn Llundain yn gweithio ar raglen Blue Peter.
Dychwelodd wedyn i Gaerdydd gyda’i deulu a chreu y rhaglen deledu Gymraeg Bilidowcar.
Bu’n gweithio hefyd ar gyfresi Rasus a Twrio ar S4C.
Bu’n sôn am ei brofiadau dramor; bu yn Brunei yn sefydlu gwasanaeth teledu a bu’n gweithio yn China yn ogystal.
Bu tair o ferched blaenllaw yn ddylanwad mawr arno, sef Gwennant Davies, yr Urdd Aberystwyth, Norah Isaac, Coleg y Drindod a Teleri Bevan, BBC yng Nghaerydd.
Roedd Teleri Bevan wedi gofyn iddo i fynd ar daith i’r India i wneud rhaglen ar Indira Gandhi, prif weinidog yr India.
Ar ôl gorffen ffilmio dychwelodd i Gaerdydd i olygu’r rhaglen a daeth y newyddion trist ei bod wedi ei llofruddio ym mis Hydref 1984.
Dyma’r cyfweliadau diwethaf wnaeth y prif weinidog a defnyddiwyd y rhaglen i gofio amdani.
Roedd yn ddiddorol clywed fod Indira Gandhi wedi bod ar ymweliad â Thregaron flynyddoedd yn ôl, a sefyll o flaen cof-golofn Henry Richard.
Talwyd y diolchiadau gan Ifan a diolchodd i John am rannu ei atgofion a’i brofiadau diddorol.
Braf oedd cymdeithasu dros paned o de a bisgedi a baratowyd gan Anne Evans a Mair Jones.
Cynhelir noson Nadoligaidd dan ofal Gwyneth Davies ar nos Fawrth, 4 Rhagfyr am 7.30yh yn y festri.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.