THE latest community news from Tregaron

Clwb Cerdded/Walking Club

THE next walk is scheduled for 26 December.

The walk is called ‘Discover the Turkey Trek’ and has been arranged by Dafydd Wyn Morgan 07748 675798.

This is one of the club’s annual walks that brings people of all ages together for a festive footpath foray during the Christmas period.

This was the club’s first walk back in 2003 that attracted 90 walkers on that cold day.

Make the most of the opportunity to meet new and old friends whilst taking in the great views the walk affords.

The faithful toy turkey Terwyn will join in the walk too; the last turkey to be sold by Woolworths in December 2008.

A warm welcome awaits you on your return to Y Talbot.

The walk is to last approximately three hours and is graded a moderate walk over a distance of five miles, with an ascent of 1,240ft/380m.

Meet at Y Talbot at 10.30am.

To become a member of Clwb Cerdded Tregaron Walking Club ring Gwyneth, membership secretary on 01974 298802.

Y Gymdeithas

AR nos Fawrth, 3 Rhagfyr, cynhaliwyd noson Nadoligaidd y Gymdeithas.

Dechreuwyd y cyfarfod trwy ganu Cofia’n gwlad Benllywydd Tirion gyda Alice Jones yn cyfeilio.

Eryl Rees oedd llywydd y noson a chroesawodd pawb i’r festri, cyn mynd ymlaen i gyflwyno John Glant a Lisa Griffiths oedd yng ngofal yr adloniant.

Nid dyma’r tro cyntaf i John a Lisa fod ym Mwlchgwynt a gwerthfawrogir pobl tebyg iddynt sy’n barod i roi o’u hamser i fynd o amgylch cymdeithasau cefn gwlad i ddiddanu.

Mae’r ddau’n weithgar ac yn gefnogol iawn i ddigwyddiadau’r ardal.

Erbyn hyn mae’r wyrion yn dilyn ôl eu troed ac yn hoff iawn o ymddangos ar lwyfan yn canu a pherfformio.

Cafwyd noson hyfryd yn eu cwmni, gyda’r ddau yn canu carolau, canu gwerin a bu John yn ei ffordd naturiol yn dweud ambell stori ddigri yn sôn am hen gymeriadau ei gartref genedigol yn Llangeitho.

Roedd yn canmol y Clwb Ffermwyr Ifanc a fu’n ddylanwad mawr arno yn ei ieuenctid.

I ychwanegu at awyrgylch y Nadolig, bu’r gynulleidfa yn ymuno â hwy i ganu carolau.

Diolchwyd i’r ddau am noson gartrefol a difyr a diolch hefyd i Alice am gyfeilio iddynt ac am ei pharodrwydd i ganu’r piano yn fisol yn y Gymdeithas.

Roedd y paned o de a mins peis yn dderbyniol iawn, gyda phawb yn mwynhau sgwrs fach cyn troi am gartre.

Dymunwn Nadolig Llawen i bawb ac edrychir ymlaen i’r cyfarfod dechrau flwyddyn ym mis Ionawr.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]