THE latest community news from Tregaron
Litter pick
TREGARON Time Bank is organising a litter pick on Saturday, 8 February.
Meet on the main square at 10am.
A warm welcome to anyone who is prepared to help.
Go and find out more information about the Tregaron Time Bank.
Capel Bwlchgwynt
CYNHELIR oedfa dydd Sul, 9 Chwefror, am 10yb dan ofal Gareth Jones, Llanbedr Pont Steffan.
Gwasanaeth Pob Oed
FORE Sul, 19 Ionawr, cynhaliwyd Gwasanaeth Pob Oed dan ofal y Bugail.
Cyhoeddwyd fod casgliad aelodau Gofalaeth Caron llynedd tuag at Genhadaeth y Gwahanglwyfion wedi cyrraedd £1,718.
Diolchodd i bawb am eu haelioni a bu’n son fel mae’r arian yn helpu i wella’r bobl sy’n dioddef o effeithiau creulon y gwahanglwyf.
Ceir cyfle eleni eto i gyfrannu i’r elusen deilwng yma a gwerthfawrogir pob cyfraniad.
Ar hyn o bryd mae’r plant yn dilyn hanes y proffwyd Eliseus yn yr ysgol Sul a dyma beth oedd thema’r gwasanaeth.
Darllenwyd gan Ifan Williams ac offrymwyd gweddi gan Mari Williams.
Cyflwynwyd yr emynau gan Lois Davies, Mabli Dark ac Anni Grug Lewis Hughes.
Casglwyd gan Magi Lawlor a Gwion Lewis Hughes a chyfeiliwyd gan Gwyneth Davies.
Diolchwyd i’r Bugail am ei wasanaeth ac i’r plant am gymryd rhan gan Gareth Jones.
Merched y Wawr
NOS Sadwrn, 11 Ionawr, cynhaliwyd cinio blynyddol y gangen yng nhafarn Y Ffarmers, Llanfihangel y Creuddyn.
Croesawyd yr aelodau gan Anne Jones, y llywydd, ac estynnwyd croeso cynnes i’r gwr gwadd sef Ben Lake, yr Aelod Seneddol.
Gofynnwyd gras cyn y ginio gan Catherine Hughes.
Ar ol i bawb wneud cyfiawnder a’r pryd o fwyd blasus aeth Anne ymlaen i gyflwyno’r gwestai gan ei longyfarch ar gadw ei sedd yn yr Etholiad Cyffredinol diwedd y flwyddyn.
Mae wedi creu argraff dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn San Steffan ac yng Ngheredigion a chafodd y fraint o gael ei enwebu’n ’AS y Flwyddyn 2019’ gan ei etholwyr.
Cafwyd noson ddiddorol iawn yn ei gwmni yn rhannu ei brofiadau yn San Steffan. Bu’n son am ddigwyddiadau’r Senedd a’r gwahanol gymeriadau mae’n ymwneud a nhw yn rheolaidd.
Mae’n teimlo’n gryf dros faterion gwledig ac yn gweithio’n galed dros ei etholwyr.
Gwyddom ei fod eisoes wedi codi ei lais yn gadarn ar wahanol faterion sydd o bwys i’w bobl yng nghefn gwlad Ceredigion.
Diolchwyd iddo gan Catherine Hughes gan ddiolch iddo am roi o’i amser prin i ymuno gyda’r gangen.
Ymfalchiwn yn y ffaith fod person ifanc brwdfrydig yn ein cynrychioli yng Ngheredigion.
Gwerthfawrogir ei gefnogaeth diflino yn cyfarfod a chymdeithasau ac unigolion ar draws yr etholaeth yn rheolaidd.
Mae ganddo ddyfodol disglair ym myd gwleidyddiaeth a dymunodd Catherine bob rhwyddineb iddo i’r dyfodol.
Diolchwyd i staff Y Ffarmers am ginio blasus ac i Nerys am ddreifo’r bws.
Ar nos Fawrth, 14 Ionawr ymunodd rhai o’r aelodau yn noson Y Talwrn a gynhaliwyd yn y neuadd goffa a chafwyd noson ddifyr iawn yng nghwmni Ceri Wyn y Meuryn.
Y pedwar tim oedd yn cymryd rhan oedd beirdd Tir Iarll yn erbyn y Derwyddon a Crannog yn erbyn y Ffoaduriaid.
Cafwyd llawer o hwyl yn gwrando ar y gwahanol dasgau a roddwyd gerbron y beirdd a chafwyd amrywiaeth o’r digrif a’r difrif.
Dymuniadau gorau i’r ddau dim buddugol aeth ymlaen i’r rownd nesaf. Cafwyd cyfle i gymdeithasu ar y diwedd a diolch i Anne Jones ac Ann Morgan am drefnu paned a lluniaeth i bawb.
Nos Fercher, 5 Chwefror edrychir ymlaen at noson ’Gwisgo’r Gwestai’ yn y neuadd goffa.
Clwb Cerdded/Walking Club
THE next walk is scheduled for 9 February and will be entitled ’A walk of Lakes’.
From Ysgol Mynach they will walk through Coed y Bobl, celebrating its 20th year as a community woodland and nature reserve.
They then head towards Trisant, with a tea break at Llantrisant Church and then towards Pond Glandwgan for lunch.
They continue alongside the lake passing Pond Rhosrydd making our way back to Devil’s Bridge via Rhydypererinion, Pen-lan and Tynrhyd.
There will be 360-degree views of spectacular scenery throughout the whole walk.
The walk is to last approximately four hours and is graded a moderate walk over a distance of seven miles, with an ascent of 1,150ft/350m.
Meet at Y Talbot, Tregaron at 9.30am or Ysgol Mynach, Devil’s Bridge (GR SN736764) at 10.15am.
Should you wish to become a member of Clwb Cerdded Tregaron Walking Club then please feel free to give Gwyneth, membership secretary, a ring on 01974 298802.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.