Côr Cwmann a’r Cylch

CYRHAEDDODD gweithgareddau’r côr uchafbwynt nos Sadwrn 25 Mehefin pan gynhaliwd Cyngerdd Mawreddog yn Neuadd Sant Iago, Cwmann. Llywydd y noson oedd y Bonheddwr Gwilym Price a oedd yn un sylfaenwyr y côr dros 50 mlynedd yn ôl. Cafwyd araith ddiddorol ganddo am hanes cychwyniad y côr.Yn ogystal â pherfformiadau’r côr, cafwyd eitemau o’r radd uchaf gan y gantores enwog Catrin Aur, Kees Huysmans a rhai o blant Ysgol Carreg Hirfaen ond gwefreiddiwyd y gynulleidfa gan lais anhygoel Catrin Aur.Arweiniwyd y noson yn gywrain gan Cyril Davies ac ef hefyd wnaeth y diolchiadau. Cyflwynodd Ken Lewis, cadeirydd y côr, flodau i Gwilym Price ac i Catrin Aur.Darparwyd lluniaeth i’r gwesteion a’r artistiaid gan Mr a Mrs Elfan James.Bydd elw’r noson yn cael ei gyflwyno i Ambiwlans Awyr Cymru a chafwyd annerchiad gan Mr Roberts, un o swyddogion yr elusen sy’n gyfrifol am y gwasaneth Ambiwlans Awyr , a diol-chodd i’r côr am drefnu’r achlysur.