ERS bron i flwyddyn a hanner yn ôl bellach fe sefydlwyd clwb ym Mhwllheli oedd yn cyfarfod unwaith yr wythnos, heblaw am seibiant dros cyfnod yr haf, clwb ‘Prynhawn Difyr.’

I cychwyn y clwb derbyniwyd grant gan y Loteri Genedlaethol, a bydd yn cyfarfod a’r brynhawn Iau yn Tonnau, Stryd Penlan, Pwllheli.

Bydd cyfle i fwynhau paned gyda siaradwr gwadd ambell wythnos, chwarae cardiau, dominos ayyb neu gyfle am sgwrs.

Fel arfer bydd rhwng 15 a 25 o aelodau yn dod at ei gilydd a bydd raffl bob wythnos am £1 y pen gyda’r arian yma yn mynd at wahanol achosion lleol.

Llynedd fe gyflwynwyd siec i’r Wyl Gerdd Dant ac eleni mae dwy siec wedi’u cyflwyno; un am £200 i Parêd Dewi Sant, a’r llall am £250 tuag at Bad Achub Pwllheli.

Bob rhyw chwech wythnos bydd aelodau’r clwb yn cael mynd draw i Ysgol Glan y Môr, Pwllheli i gael mwynhau te prynhawn.

Mae’r te yma yn rhoi cyfle i’r disgyblion ddysgu sut i weini a darparu bwyd.

Mae’r sgiliau yma yn rhan bwysig o’u cwriciwlwm ac yn rhoi cyfle i aelodau fwynhau paned a bwyd yn rhad ac am ddim.

Mae aelodau’r clwb yn gobeithio y bydd ganddynt arian i’w cyflwyno i’r ysgol yn fuan i ddangos ei gwerthfawrogiad o’r croeso cynnes maent yn ei dderbyn pob tro.

Bydd y clwb yn darfod am yr haf eleni gyda trip i Felin Uchaf, Rhoshirwaun ar ddydd Iau, 29 Mehefin, gyda’r holl aelodau yn edrych ymlaen.