Gyda’r Urdd yn dathlu canmlwyddiant yn 2022, mae’n anodd credu nad oes gan Mistar Urdd lyfr yn dweud ei hanes – tan nawr!

Mae Anturiaethau Mistar Urdd gan Mared Llwyd wedi’i hanelu at blant 7 i 10 oed. Mae’r Lolfa yn cydweithio gyda’r Urdd i wireddu’r syniad o ledaenu beth mae’r Urdd yn ei wneud ac yn ei gynnig fel mudiad ieuenctid. Mae’r nofel graffeg yn cynnwys tair stori ar ffurf cartwnau ac mae’r lluniau gan Sioned Medi Evans.

Meddai Branwen Rhys Dafydd, rheolwr cyhoeddiadau a chyfathrebu’r Urdd: “Mae Mistar Urdd wedi bod yn eicon cenedlaethol ers 1976, ac er ei fod wedi ymddangos fel cymeriad cartŵn o fewn cylchgronau’r Urdd dros y blynyddoedd, dyma fo o’r diwedd yn cael serennu rhwng cloriau nofel graffeg! A pha well amser i wneud hynny nag yn ystod blwyddyn mor arwyddocaol yn hanes yr Urdd? Rydym yn ffyddiog y bydd y gyfrol hon yn ysbrydoli cenhedlaeth arall o ddarllenwyr ac yn diolch i wasg y Lolfa, Mared Llwyd a Sioned Medi Evans am ein helpu i wireddu’r uchelgais honno.”

Meddai’r awdur, Mared Llwyd: “Dwi’n hynod ddiolchgar i Urdd Gobaith Cymru a’r Lolfa am y fraint o gael awduro’r straeon i’r gyfrol hon, a hynny mewn blwyddyn mor bwysig yn hanes yr Urdd.

“Bu’n bleser pur meddwl am anturiaethau – a sawl tro trwstan – i’r cymeriad hoffus hwn sy’n rhan mor allweddol o apêl yr Urdd ac sy’n ffrind i genedlaethau o blant Cymru. Hir oes i Mistar Urdd!”

Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922. Ei fwriad oedd creu mudiad i amddiffyn y Gymraeg mewn byd lle’r oedd yr iaith Saesneg yn dominyddu pob agwedd o fywyd plant Cymru y tu hwnt i’r cartref a’r capel. Ganwyd Mistar Urdd ym mis Medi 1976 drwy law Wynne Melville Jones a tyfodd i fod yn gymeriad bywiog a phoblogaidd.

Meddai Wynne Melville Jones: “Go dda Mistar Urdd. Hen foi iawn, wastad yn barod i rannu ei anturiaethau gyda phlant Cymru. Mae e erioed wedi bod fel hyn ers pan oedd e’n ddim o beth. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i ddarllen y storïau yn y llyfr.”

“Does dim dwywaith ei fod yn byw bywyd llawn cyffro ac asbri ac mae’n gallu troi ei law at bob math o antur, rhai yn heriol ac eraill yn heriol iawn. Diolch i’r Urdd does dim yn amhosibl i Mistar Urdd, ac mae’n gwenu trwy’r cyfan ac yn byw bywyd byrlymus yn enwedig yn y Gwersylloedd ac yn yr Eisteddfod, heb sôn am y toreth o heriau anturus yr Urdd rownd y flwyddyn. Cael sbort yw’r peth!”

Mae Anturiaethau Mistar Urdd gan Mared Llwyd a Sioned Medi Evans ar gael 23 Mai 2022 (£4.99, Y Lolfa).